Disgrifiad o Waith Haearn Blaenafon o Adroddiad 1842 ar y Pyllau Glo

'Mae Gwaith Haearn Blaenafon yn eiddo i Gwmni Haearn a Glo Blaenafon, mae'n cyflogi tua 2000 o bobl ac yn cynhyrchu tua 400 tunnell o haearn bob wythnos mewn pum ffwrnais. 3 Mai.

Rhif 31. Thomas Deakin, 65 oed, asiant pwll glo, a John Samuel, 31 oed, asiant glo, wedi'u cwestiynu gyda'i gilydd.

Cyflogir tua 230 o bobl ifanc o dan 18 oed yn y gwaith mwyngloddio a thua 136 yn y gwaith glo. Mae rhieni yn mynd â'u plant i'r gwaith yn ifanc iawn, pan fyddan nhw'n chwech neu saith oed, ond nid ydym yn eu cyflogi fel gweithwyr y cwmni nes eu bod yn wyth neu naw oed, a hyd yn oed wedyn dim ond ychydig iawn y byddwn yn eu cyflogi, i weithredu drysau neu i wneud gwaith tebyg. Weithiau rydym yn cyflogi merched i weithredu drysau, ond dim llawer; dim ond un sy'n gweithredu drysau yn y gwaith mwyngloddio ar hyn o bryd, ond mae yna lawer yn gweithio ym mhen y pwll ac ar lannau'r pwll. Dim ond un ferch a gyflogir yn y gwaith glo ar hyn o bryd; mae tua 14 oed ac mae hi'n "tipio" neu'n gwagio tramiau o wastraff ar y lan. Mae tua 10 neu 12 o fechgyn yn gweithredu drysau aer; mae'r ieuengaf rhwng saith ac wyth oed; mae bechgyn rhwng 9 a 15 oed yn gwneud gwaith tywys ceffylau.

Mae'r bechgyn sy'n gweithredu drysau a mwyafrif y rhai sy'n tywys ceffylau yn cael eu talu gan y cwmni. Mae'r bechgyn sy'n gweithredu drysau yn derbyn 10 neu 12 swllt y mis; nid oes ganddynt olau ac maent yn y tywyllwch ac eithrio pan fydd y tramiau yn dod allan pan fyddant yn gweld cannwyll y gyrrwr. Maent yn gweithio am 12 awr, o chwech o'r gloch y bore tan chwech o'r gloch y nos; weithiau maent yn dod i wyneb y pwll am bump o'r gloch, ac nid ydynt yn mynd o dan y ddaear mor gynnar â chwech o'r gloch bob amser; nid ydym yn gweithio yn y nos yn y pwll neu'r gwaith glo.

Mae'r gyrwyr neu'r "cludwyr" yn ennill tua 10 neu 12 swllt yr wythnos; mae rhai ohonynt yn cael eu cyflogi a'u talu gan y dynion os ydynt yn gwneud gwaith contract.

Ar ôl cyrraedd 15 neu 16 oed mae'r bechgyn yn mynd i helpu'r mwynwyr a'r glowyr i gloddio am lo a dod ag e i'r wyneb. Nid oes gennym yr un bachgen yn gweithio gyda'r "gwregys a'r gadwyn"; roedd e wedi gweithio gyda'r "gwregys a'r gadwyn" yn Swydd Amwythig pan oedd e'n naw oed. Nid yw'r plant yma yn gweithio chwarter mor galed â'r plant yn Swydd Amwythig. Ni fyddwn yn gadael i'm plant weithio fel y gwnes i hanner can mlynedd yn ôl, byddai'n well gennyf eu hanfon i India'r Gorllewin fel caethweision. Nid oes yr un plentyn yn gorweithio yma mewn unrhyw ffordd, ac maent i gyd yn cael eu dilladu a'u bwydo'n dda yn gyffredinol.

Mae'r pyllau yn cau am awr yn ystod amser cinio, ond mae'r mwynwyr a'r glowyr yn bwyta eu cinio ar amseroedd gwahanol, pryd bynnag maent yn dymuno gwneud hynny, wrth iddynt weithio fesul tunnell. Mae'r bechgyn sy'n gweithio gyda nhw yn gwneud yr un peth.

Mae'r aer yn y gwaith yn bur yn gyffredinol ac nid yw'n cynnwys unrhyw leithder; rydym wedi cael sawl tanchwa – fe gawsom un yn ystod y ddwy flynedd diwethaf; llosgwyd un dyn i farwolaeth, ond ni anafwyd neb arall; cafwyd sawl tanchwa bychan arall, ond nid oes yr un bachgen wedi'i anafu. Anaml iawn mae'r bechgyn yn sâl; ychydig o amser maent yn ei golli o'r gwaith oherwydd salwch, ac yn gyffredinol maent yn colli llai o amser na'r dynion. Mae llawer o'r dynion wedi torri eu llengig, ond nid ydym yn credu bod hyn yn digwydd cyn eu bod wedi tyfu'n ddynion.

Yr unig gyflyrau penodol sy'n effeithio ar y glowyr a'r mwynwyr yn fwy na dynion eraill yn ein barn ni yw clefydau'r frest a'r ysgyfaint, fel asthma, pan eu bod yn cyrraedd tua 50 mlwydd oed.'