Gwasanaethu'r Ymerodraeth

Dyfyniadau o Adroddiad 1842 ar y Pyllau Glo sy'n sail i sgript y fideo.

Gweithredwyr y Drysau Aer

Josiah Jenkins, 7 oed (Sir Fynwy):

'Mae wedi gweithio dan y ddaear ers 18 mis; yn ennill 8d. y dydd; nid yw wedi'i anafu erioed. Mae'n wlyb iawn o dan y ddaear; mae'n mynd i lawr y siafft gyda'r dynion; yn gweithio 12 neu 13 awr bob dydd. Roedd yn gallu darllen ychydig cyn dechrau'r gwaith, ond mae wedi anghofio'r hyn a ddysgodd; dysgodd ddarllen gyda'i dad; mae ei dad yn bregethwr gyda'r Annibynwyr; mae'n mynychu Ysgol Sul ei dad. Mae ganddo frawd hŷn sy'n gweithio o dan y ddaear, ac mae e'n gallu darllen ac ysgrifennu.'

Mary Read, 12 oed (Merthyr Tudful):

'Mae wedi gweithio yn y Plymouth Mine ers pum mlynedd. Ni fydd hi byth yn gadael nes bod y ceffyl wedi dod â'r tram (trol) olaf. Mae'n gweithio o chwech o'r gloch y bore tan bedwar a phump o'r gloch y nos. Mae hi wedi rhedeg adref bron â llwgu ar hyd y lefel, neu wedi neidio ar drol wrth iddi basio. Nid yw'n hoffi gweithio yn y tywyllwch; mae'n ddigon parod i weithio yng ngolau dydd. Nid yw wedi bod i'r ysgol ddydd; weithiau mae hi'n mynd i Ysgol Sul y capel i ddysgu'r llythrennau. (Prin yn gwybod y gwahaniaeth rhwng y llythrennau). Y dyn yn yr awyr a'm creodd, ond dwi ddim yn gwybod pwy yw ef; erioed wedi clywed am Iesu Grist; does neb wedi dweud wrthyf am bethau felly. Rwy'n rhedeg ar hyd y ffyrdd ar ôl gwaith ac yn ymolchi cyn mynd i'r gwely.'

Susan Reece, 6 oed (Merthyr Tudful):

'Rwyf wedi gweithio o dan y ddaear ers tua chwech neu wyth mis. Dwi ddim yn hoffi'r gwaith rhyw lawer. Mae hi'n gweithredu'r drysau rhwng chwech o'r gloch y bore a chwech o'r gloch y nos; weithiau mae'r oriau yn llai. Nid yw wedi anafu erioed. Weithiau mae hi'n rhedeg adref pan fydd y lamp wedi diffodd a phan fydd chwant bwyd arni. Mae hi'n dod â bara a chaws i'r gwaith bob dydd.'

Sarah Gooder, 8 oed (Gogledd Lloegr):

'Rwy'n gweithio fel trapper* ym mwll Gawber. Nid yw'n waith blinedig, ond mae'n rhaid i mi weithio yn y tywyllwch ac mae'n codi ofn arna i. Weithiau rwy'n canu pan fydd golau gennyf, ond nid yn y tywyllwch; feiddiwn i ddim canu wedyn. Dwi ddim yn hoffi bod yn y pwll. Rwy'n mynd i ysgolion Sul ac yn darllen Reading Made Easy. (Mae hi'n adnabod y llythrennau ac yn gallu darllen geiriau byr). Maen nhw'n fy nysgu sut i weddïo… rwyf wedi clywed sôn am Iesu sawl gwaith. Dwi ddim yn gwybod pam y daeth i'r ddaear na pham y bu farw, ond roedd ganddo gerrig i orffwys ei ben. Byddai'n llawer gwell gennyf fod yn yr ysgol na'r pwll.'

*Yn Lloegr, cyfeiriwyd at weithredwyr y drysau fel trappers.

Certmyn

John William, 16 oed (Sir Gaerfyrddin):

'Rwy'n cludo glo mewn trol yn yr wythïen aur; mae'n gyfyng, rwy'n cropian ar fy mhengliniau, ac yn aml iawn ar fy stumog; rwy'n llusgo gyda “thres a chadwyn”, mae bachgen arall (Henry Green) yn gwneud yr un gwaith â mi yn yr un lle; mae gogwydd yr wythïen a'r lle yn serth, ac mae gennym gadwyn drwy floc yn y pen uchaf, ac mae un bachgen yn mynd i fyny tra bod y llall yn mynd i lawr; rydym yn llenwi ac yn gwagio'r troliau yn ogystal â'u llusgo. Mae'n waith caled, weithiau nid oes gennym lawer o amser i fwyta ein bara a'n caws, rydym yn bwyta bara haidd gan amlaf. Rydym yn llusgo tua 40 trol, sy'n gwneud 20 basged mewn diwrnod, ac yn ennill 24 swllt y mis yr un; weithiau os ydyn ni'n gwneud mwy o waith nag arfer rydyn ni'n ennill 14d. y dydd; rydyn ni'n gweithio drwy'r amser o dan y ddaear, nid oes neb yn stopio i gael brecwast neu ginio yn y pwll.'

Henrietta Frankland , 11 oed (Merthyr Tudful):

'Rwy'n llusgo'r dramiau (troliau), sy'n cynnwys 4 i 5 canpwys o lo, o ben y pwll i'r brif ffordd; rwy'n gwneud 48 i 50 o deithiau; mae fy chwaer, sy'n ddwy flynedd yn hŷn, hefyd yn llusgo tramiau; mae'r gwaith yn galed iawn, ac mae'r oriau hir cyn i ni dderbyn ein cyflog yn ein blino'n lân. Mae'r pwll yn wlyb lle rydyn ni'n gweithio, gan fod y dŵr yn dod trwy'r to, ac nid yw'r gweithfeydd ond 30 i 33 modfedd o uchder. Rwyf wedi bod yn segur ers deufis ar ôl i geffyl ddisgyn arna i a'r drol fynd drosta i, gan wasgu fy nghorff; ni thorrais yr un asen, ond roedd y boen yn ofnadwy ac rwy'n dal i fod yn boenus. 'Dyw fy chwaer, Maria (13 oed), na fi wedi bod i'r ysgol ers dechrau gweithio; dwi ddim yn gwybod ai Duw a'm creodd nac yn gwybod dim byd am Iesu; nid oes yr un Gorchymyn; nid oes yr un ohonon ni'n darllen llyfrau; mae fy chwaer yn dysgu gyda'r llyfr sillafu; mae hi wedi bod yn mynd i'r Ysgol Sul ers 12 mis ond nid yw wedi darllen llyfr eto. (Roedd y chwaer yn bresennol, ar ôl newydd ddychwelyd o'r pwll; nid oedd yn adnabod llythrennau).'

Glowyr

John Evans David, 42 oed:

'Rwyf wedi gweithio yn y pyllau ers dros 35 mlynedd yn y rhan hon o Gymru. Rwyf wedi dioddef llawer o ganlyniad i asthma, sydd wedi'i achosi gan aer y pyllau a'r mwg sy'n ymgasglu ar ôl y gwaith ffrwydro. Rwy'n poeri hylif du ac wedi gwneud hynny ers pum mlynedd. Mae'r hylif yn debyg i baent du; mae llawer o lowyr yn dioddef o'r un cyflwr; byddwn i'n meddwl bod un o bob deg yn dioddef ohono ar ôl cyrraedd 40 oed.... Rwy'n gweithio rhwng 10 a 12 awr. Mae'r powdwr du sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer y gwaith ffrwydro yn y pwll yn costio tua 1s. i 1s. 6d. bob wythnos. Rwyf wedi dod â'm mab i'r gwaith; mae'n wyth oed.'

William Smith, 10 oed (Sir Fynwy):

'Wedi gweithio o dan y ddaear ers pedair blynedd a hanner; yn gweithio gyda'i dad a'i frawd; mae ei frawd yn saith oed ac wedi cynorthwyo ei dad ers tair blynedd. Nid ydym yn gallu darllen. Weithiau rydym yn mynd i'r capel ar ddydd Sul. (Dim gwybodaeth am grefydd o gwbl)

William Skidmore, 8 oed (Sir Fynwy):

'Dwi ddim yn gwybod beth yw fy oedran; mae ei dad yn meddwl ei fod yn wyth oed; nid yw'n gwybod pryd y dechreuodd weithio, am ei bod hi mor bell yn ôl -(nododd y stiward ei fod yn sicr bod y bachgen wedi gweithio o dan y ddaear ers pedair blynedd) – mae'n wlyb iawn lle rwy'n gweithio; cafodd fy mhen ei wasgu ychydig yn ôl gan ddarn o'r to a syrthiodd; roeddwn i'n segur am ychydig o amser; rwy'n mynd i'r Ysgol Sul; rwy'n ymolchi bob nos; mae gen i saith brawd a chwaer; rwy'n gwybod a,b,c.'

Gweithwyr haearn

Morgan Lewis, 9 oed (Merthyr Tudful):

'Rwy'n tynnu drws y ffwrneisiau pwdlo ar gyfer y dynion; rwyf wedi bod yn gwneud hyn ers pythefnos; bues i'n gweithio ar y peiriant gwasgu am ddwy flynedd, gan sythu barrau haearn. Mae sythu yn waith caletach na thynnu. Rwy'n gweithio 12 awr ar shifft ddydd a 12 awr ar shifft nos; rwy'n newid o weithio shifft ddydd i shifft nos bob yn ail wythnos. Bob nawr ac yn y man rwy'n cael fy llosgi ychydig, ond nid mor ddrwg fel na alla i weithio. Mae'n waith blinedig, ond mae fy nghinio yn rhoi nerth i mi, gan fod fy nhad yn cael cig bob amser ac rwy'n cael rhywfaint ohono. Rydym yn gorffwys am hanner awr gyda phob pryd, ac yn cael dau bryd y dydd yn y gwaith. Dwi ddim wedi bod i unrhyw ysgol ddydd; rwy'n cael fy anfon i Ysgol Sul Mr. Jones i ddysgu'r llythrennau Cymraeg; dwi ddim wedi'u dysgu eto. Dwi ddim yn gwybod ystyr catecism neu grefydd; ddysgais i erioed am Dduw. Mae'r awyr uwchben, a does neb wedi dweud wrthyf am Iesu Grist; dwi ddim yn gwybod beth yw ef. Ar ôl gorffen gwaith rwy'n chwarae ar y ffordd ac mae mam yn fy ngorfodi i ymolchi cyn mynd i'r gwely. Weithiau rwy'n cael fy nghuro am chwarae o gwmpas. Yn ennill 14s. y mis.'

Edward Davis, 10 oed (Merthyr Tudful):

'Dechreuais weithio yn y ffyrnau 14 mis yn ôl; rwy'n cael fy nghyflogi i fachu'r metel ar y peiriant gwasgu; mae'n waith poeth, ac yn waith caled iawn hefyd; rwy'n gweithio 12 awr yn ystod y dydd, ac weithiau'r un nifer o oriau yn ystod y nos. Rwy'n cael dau seibiant yn y gwaith o hanner awr yr un i fwyta fy mhrydau. Dwi ddim yn cael pryd bob dydd; hwyrach bydda i'n cael pryd tair gwaith yr wythnos. Nid oes gen i lawer o amser ar ôl gwaith achos rwy'n ymolchi bob tro. Dwi erioed wedi siarad Saesneg; mae dad a mam yn siarad Cymraeg, felly hefyd Mr. Jones, y pregethwr. Rwy'n mynd i'w Ysgol Sul. Rwy'n gwybod y llythrennau Cymraeg oherwydd i mi fynd i'r ysgol am ddwy flynedd. (Nid yw'n gwybod y llythrennau, dywedodd fod D yn G a'r llythyren C yn A). Dwi ddim yn gwybod dim byd am Dduw. Bydda i'n mynd i'r tân ar ôl marw os rwy'n melltithio ac yn rhegi meddan nhw. Nid yw'n gwybod sawl ceiniog sydd mewn pishyn chwech; mae'n meddwl bod pedair ceiniog yn gwneud swllt neu 18 ceiniog. Pe bai fy nau fawd yn cael eu torri byddai gen i wyth bys ar ôl.'

Catherine Pritchard, 13 oed (Merthyr Tudful):

Rwy'n cludo tramiau haearn i'r felin newydd. Rwy'n gorfod cludo pwysau mawr, sy'n waith blinedig. Rwyf wedi gweithio yma ers tair blynedd. Rwy'n ennill 13s. y mis, ond rwy'n disgwyl y bydd hynny'n codi i 28s. Mae fy nhad yn rholio haearn ac mae dau frawd i mi'n gweithio gydag e. Nid oes yr un ohonon ni'n darllen eto; rydyn ni wedi cyrraedd y llyfr AB yn yr Ysgol Sul. Dwi ddim yn gwybod beth yw fy oedran. Rwy'n gweithio o chwech o'r gloch y bore tan saith o'r gloch y nos, ac ar ôl hynny rwy'n helpu i gael dŵr i'r tŷ, felly does gen i ddim amser i chwarae. Rwy'n meddwl mai Duw yw Crist. Ni wn beth yw Cymundeb. Rwyf wedi clywed am Lundain, gan fod fy ewythr yno; mae'n meddwl bod Llundain yn rhan o Fryste. Cymraes ydw i ond ni wn os wyf yn byw yng Nghymru neu Loegr.'