Swyddi Plant yn y Gwaith Haearn

Dyfyniadau o Adroddiad Robert Hugh Franks, Ysw. ar Gyflogi Plant a Phobl Ifanc ym Mhyllau Glo a Gweithfeydd Haearn De Cymru; a Chyflwr, Amodau a Thriniaeth Plant a Phobl Ifanc o'r fath. (1842)

John Lewis, 10 oed, labrwr mewn gefail:

'Rwy'n llenwi'r berfâu gyda haearn, ac yn mynd â nhw i'r efail neu at bwy bynnag sydd eu hangen; rwy'n gweithio bob dydd ac wedi bod yn gwneud hyn ers chwe mis. Rwyf wedi llosgi fy wyneb a'm traed ond nid wyf erioed wedi bod i ffwrdd o'r gwaith am lawer o ddyddiau. Roeddwn i'n arfer mynd i'r ysgol Gymraeg di-dâl; fe ddysgais i a, b a'r ab. (Nid yw'n gwybod llythyren).'

Sarah Davis, 14 oed, pentyrrwr:

'Mae'n gweithio 12 awr y dydd yn pentyrru barrau haearn ar gyfer y pydlwyr (purwyr); wedi bod yn y gwaith ers deufis yn unig. Fe aeth i'r ysgol ddi-dâl, ac roedd hi'n deall rhywfaint o'r gwaith sillafu (yn methu â sillafu'r un). Duw a greodd ddyn; erioed wedi clywed am uffern na'r nefoedd. Mae deuddeg ceiniog mewn swllt; 2 wedi'i luosi â 2 yw 4; nid yw'n gwybod beth yw 4 adio 4.'

Catherine Hughes, 14 oed, cludwr dŵr:

'Mae hi'n cludo dŵr ar y bryn i'r dynion sy'n llosgi'r glo ar gyfer y ffwrneisiau chwyth; yn gweithio saith diwrnod neu saith noson; yn gweithio llai ar ddydd Sul, yn gweithio 12 i 13 awr ar adegau eraill; mae hi'n gweithio i'w llystad gan fod ei thad ei hun wedi marw; nid yw'n gallu darllen eto ond mae'n mynd i'r Ysgol Sul i wrando ar y pregethwr. (Nid yw'n gwybod sut i ddarllen). Nid oes yr un cwestiwn yn y Catecism yn cael ei addysgu yn yr ysgol. Duw a'm creodd; Iesu yw Duw; Adda oedd y dyn cyntaf; Job oedd y dyn doethaf. Mae yna ddeuddeg ceiniog mewn swllt; pum bys ar bob llaw; chwe diwrnod mewn wythnos; nid yw'n dweud sawl mis sydd mewn blwyddyn; mae mwy o ddyddiau mewn mis na mewn wythnos.'

Susan Davis, 17 oed, pentyrrwr:

'Wedi bod yn y gwaith ers 12 mis; yn cadw'r tŷ i'w mam cyn hynny, ac yn gwarchod y plant; erioed wedi bod i unrhyw ysgol ddydd (yn methu darllen Cymraeg na Saesneg); wedi dysgu Saesneg gan y cymdogion; yn gweithio gyda'i thad, sy'n bydlwr; yn ennill 24 swllt y mis; erioed wedi clywed am y Beibl, ond wedi clywed am y Testament; erioed wedi dysgu am unrhyw un o'r Gorchmynion - mae'n bosibl bod yna rai, ond nid i mi wybod amdanynt; dysgais sut i wau ac i wnïo fy nillad gan fy mam, ac rwy'n gwneud hynny ar ôl cyrraedd adref.'

Mary Powell, 13 oed, yn helpu gyda'r gwaith llenwi:

'Rwyf wedi bod yn helpu gyda'r gwaith llenwi yn y ffwrneisi chwyth ers 12 mis; yn ennill 3s. 6d. yr wythnos; yn gweithio drwy'r dydd bob dydd, dydd Sul yn ogystal â dyddiau'r wythnos; yn gweithio'r nos pan fydd ei chriw hi yn cymryd tro i wneud hynny; erioed wedi bod i'r ysgol yn ystod y dydd; yn mynd i wrando ar y pregethwr pan fydd amser yn caniatáu; nid yw'n deall ei eiriau nac union ystyr ei neges; erioed wedi dysgu Saesneg, ond wedi codi rhywfaint gan letywyr a phedleriaid. (Yn anwybodus iawn, nid yw'n adnabod unrhyw lythyren yn y gwerslyfrau Cymraeg neu Saesneg cyntaf)'.

Mary Williams, 15 oed, yn torri calchfaen:

'Mae hi'n torri'r calchfaen ar gyfer y ffrwydrad; wedi gwneud hynny ers tair blynedd; yn gweithio bob dydd am 12 awr; mae'r gwaith yn galed iawn ac nid yw'n cael llawer o gyfle i orffwys gan ei bod yn gorfod helpu i lanhau'r tŷ ar ôl cyrraedd adref; rwy'n ennill 5 swllt yr wythnos am weithio saith diwrnod neu nos am 12 awr; weithiau nid ydym yn gweithio'r holl 12 awr ar ddydd Sul, mae'n dibynnu ar y calchfaen sy'n cael ei dorri. Wnes i erioed fynd i ysgol ddydd; yn awr rwy'n mynd i Ysgol Sul yr Annibynwyr ac yn dysgu sillafu; Duw a'm creodd meddan nhw, a fe yw Iesu Grist; nid wyf yn gwybod a oes unrhyw Orchmynion; mae'n bosibl bod yna ddau, ond nid wyf yn gwybod dim amdanyn nhw. (Yn methu darllen, yn siarad Cymraeg yn unig).'

Evan Gray, 16 oed, glöwr:

'Mae wedi gweithio mewn pyllau glo ers saith mlynedd; yn gweithio gyda'r glo, gan helpu gyda'r gwaith torri; mae ei dad yn gwneud gwaith caib a gwaith ffrwydro; collais ddau o fysedd fy nhroed wrth esgyn i'r Balance Pit yng Nghyfarthfa; nid wyf wedi gweithio ers tri mis, rwy'n methu rhoi fy nhroed ar y llawr eto; pan fydda i yn y gwaith mae'n rhaid i mi fynd o dan y ddaear am bedwar o'r gloch a chwech o'r gloch yn y bore a dychwelyd am dri o'r gloch a phedwar o'r gloch yn y prynhawn; nid wyf erioed wedi bod i unrhyw ysgol; nid wyf yn gwybod dim am unrhyw Orchmynion, nac am bwy a'm creodd; pan fydda i'n iach rwy'n mynd i gapel yr Annibynwyr i wrando ar y pregethwr.