Holi ac Ateb - Tystiolaeth o Adroddiad 1842 ar y Pyllau Glo

Beth oedd oedran plant wrth ddechrau gweithio o dan y ddaear?

R. H. Franks, Arolygydd:

'...mae’r dystiolaeth yn cynnwys nifer o enghreifftiau o blant yn gweithio yn y pyllau glo o oedran cynnar iawn ac nid yw’n anghyffredin i blentyn mor ifanc â phum mlwydd oed a hanner wneud hynny – dyna’r oedran ieuengaf i blant gael eu cyflogi hyd y gwn i.’

Mr. Thomas Josephs, asiant mwynau’r Plymouth Works, Merthyr Tudful:

'..mae plant yn cael eu cyflogi fel gweithredwyr drysau aer yn 5 oed; fel tywyswyr ceffylau yn 14 oed, ac fel glowyr yn 12 oed.’

Mr. William Stange, cynorthwywydd meddygol, Llanfabon:

'Roedd ganddyn nhw (y bobl) yr arferiad gwael yma o fynd â phlant o dan y ddaear cyn gynted ag oedden nhw’n gallu cropian, ac roedd llawer ohonyn nhw mor ifanc â phump neu chwe blwydd oed.'

A oedd rhieni am i’w plant fynd allan i weithio mor ifanc?

'Mewn sawl rhan o’r wlad mae teulu mawr yn cael ei ystyried yn faich trwm, ond yn aml iawn yn yr ardal hon mae’n fodd o sicrhau incwm sylweddol i’r rhieni. O ganlyniad i’r sefyllfa hon, mae pobl yn priodi cyn eu bod yn deall eu dyletswyddau a’u cyfrifoldebau newydd; ac mae merched ifanc yn gadael yr ysgol Sul yn 15 neu’n 16 oed i briodi.’
'Mewn llawer o achosion, yn y gwaith dan sylw, … mae’r gweithwyr ieuengach yn cael eu cyflogi gan y dynion nid y meistr, a’r oedolion y maent yn eu cynorthwyo sy’n pennu eu hamodau cyflogaeth. Yn y pyllau glo mae cyflog bachgen sy’n löwr yn eiddo i’w dad i bob diben nes ei fod yn cyrraedd 17 oed neu’n priodi; mae ei dad yn derbyn ei gyflog p’un ai a yw’n fachgen pump oed yn gweithredu drysau aer neu’n gludwr 15 oed.’

A oedd y gwaith hwn yn niweidiol i’r plant?

James Probert, llawfeddyg Gwaith Haearn Plymouth, Merthyr Tudful:

'Mae cyflogi plant mewn pyllau glo o oedran cynnar iawn yn tueddu i achosi clefydau gan nad yw’r plant wedi datblygu digon i ymdopi ag aer budr; ond mae achosion eraill yn cyfrannu at hyn ???? Mae plant o’r fath yn gorfod wynebu tywydd gwlyb ac oer yn enwedig yn ystod tymor y gaeaf a ???? Maent hefyd yn cael eu hamddifadu o olau’r haul, sydd yr un mor bwysig i ddatblygiad anifeiliaid a llysiau fel ei gilydd.’

A oedd yna unrhyw beryglon eraill?

James Probert, llawfeddyg Gwaith Haearn Plymouth:

'Y clefydau sy’n gyffredin ymysg y glowyr, fel dosbarth, yw clefydau cronig o’r organau resbiradol, yn enwedig asthma a broncitis; afiechyd cyffredinol, sy’n deillio o gyflwr llygredig neu wendid yn y system. Mae poen cronig yn y cefn yn gyffredin iawn ymysg glowyr, ac mae’n deillio o roi gormod o straen ar y cyhyrau gewynnol. Mae’n peri cryn boen i’r glowyr.’
'Mae’r damweiniau sy’n gyffredin ymysg gweithwyr yr ardal hon yn cynnwys llosgiadau sy’n deillio o danchwa nwy mewn pyllau glo, clwyfau a chleisiau ar groen y pen, torri esgyrn yn y benglog, anafiadau i’r asgwrn cefn, torri esgyrn yn y traed a’r dwylo (yn gyffredin iawn), a chleisiau difrifol ar y bongorff a’r corff, sy’n deillio o bridd a gwastraff yn syrthio yn y pyllau.'

A oedd y plant yn cael eu trin yn wael weithiau?

Samuel Richards, 40 oed, Swydd Derby:

'Cael ei guro’n ddrwg oedd unig dâl bachgen bach yn y pwll glo. Mewn tri mis gwelodd fachgen 9 oed yn cael ei guro mor galed nes iddo wlychu’i hun am nad oedd wedi dod i’r gwaith y diwrnod cynt. Mae e wedi gweld bechgyn yn cael eu curo’n ddulas yn aml, ac os oedd y rhieni yn bresennol ni fyddent yn meiddio dweud dim neu fe fyddent yn gorfod gadael y pwll yn syth.'

Thomas Moorhouse, bachgen o löwr:

'Nid wyf yn gwybod fy oedran; mae fy nhad wedi marw…mae fy mam wedi marw hefyd; nid wyf yn siŵr ers pryd mae hi wedi marw;..
Dechreuais lusgo basgedi o lo i William Greenwod pan oeddwn i’n 9 oed; ro’n i fod yn brentis iddo nes fy mod yn 21 oed... Fe wnaeth y goruchwylwyr roi sofren iddo brynu dillad i mi, ond wnaeth e erioed wneud hynny; rhedais i ffwrdd oddi wrtho achos fe gollodd fy nghontract swyddogol ac fe ges i fy nhrin yn wael ganddo; cefais fy nharo gan gaib ganddo yn fy mhen ôl ddwywaith. (Ar ôl clywed hyn gofynnais i’r bachgen dynnu ei ddillad a gwelais glwyf mawr oedd wedi gwella a oedd yn debyg o fod wedi ei achosi gan erfyn o’r fath… Roedd ugain o glwyfau eraill, wedi eu hachosi trwy lusgo basgedi neu droliau mawr o lo mewn amodau cyfyng...)
Byddai’n fy nghuro gyda gwregys a morthwyl pren neu ordd, a thaflu glo ata i; roedd e’n fy nhrin mor wael nes i mi ei adael a mynd i chwilio am swydd.’

Joseph Wild, prif gwnstabl Oldham:

'Mae achosion o gam-drin plant mewn pyllau glo wedi’u dwyn gerbron yr ynadon - efallai un neu ddau achos y flwyddyn. Roedd y gamdriniaeth yn deillio o reolau barbaraidd ymysg y gweithwyr eu hunain bob tro, wrth iddynt gosbi troseddwyr honedig drwy osod pen y naill rhwng coesau’r llall a rhoi nifer o ergydion i’r penolau noeth gyda darnau o bren,… tua throedfedd o hyd a modfedd o drwch... Maent yn parhau â’r gosb faint bynnag mae’r sawl a gosbir yn crio; ac yn yr achos olaf, lle'r oedd bachgen newynog wedi dwyn cinio rhywun yn y pwll, fe wnaethant guro ei gorff yn ddidrugaredd.