Arddangosfeydd a Rhaglenni Rhyngwladol
J M W Turner, Fort de L'Esseillon, Val de la Maurienne, 1836 [NMW A 1744]
Claude Monet, San Giorgio Maggiore yn y Gwyll, 1908
Ffrainc a Phrydain: Celf yr oes newydd 1817 - 1917
Arddangosfa yn ymweld â chwe dinas yn Japan, Ebrill 2017–Mehefin 2018
Bydd arddangosfa newydd gan Amgueddfa Cymru, yn canolbwyntio ar gelf Ffrainc a Phrydain yn y 19eg ganrif, yn teithio yn Japan o Ebrill 2017 tan fis Mehefin 2018. Mae’r daith yn arwydd o enw da rhyngwladol casgliadau celf Amgueddfa Cymru, ac yn benodol y casgliad arbennig a adawyd i ni gan Gwendoline a Margaret Davies.
Mae’r thema Ffrainc a Phrydain: Celf yr oes newydd 1817–1917 yn adlewyrchu cryfder y casgliad: y berthynas rhwng celf Brydeinig a Ffrengig yn y 19eg a’r 20fed ganrif. Roedd dylanwadau’n teithio i’r ddau gyfeiriad; rhwng Turner a Constable ym Mhrydain, a Monet a Cézanne yn Ffrainc, gan siapio dyfodol celf.
Trefnwyd yr arddangosfa gan Amgueddfa Cymru mewn partneriaeth â White International Relations, ac mae’n cynnwys paentiadau, darluniau a lluniau dyfrlliw wedi’u dewis o gasgliad celf cenedlaethol Cymru.
Mae Ffrainc a Phrydain: Celf yr oes newydd 1817–1917 yn teithio i chwe lleoliad:
- Amgueddfa Gelf Rhaglywyddol Hiroshima: 1 Ebrill - 28 Mai, 2017
- Amgueddfa Gelf Ehime: 7 Mehefin - 23 Gorffennaf, 2017
- Amgueddfa Gelf Rhaglywyddol Kumamoto: 29 Gorffennaf - 10 Medi, 2017
- Amgueddfa Dinas Okazaki: 23 Medi - 12 Tachwedd, 2017
- Amgueddfa Gelf Dinas Shizuoka: 23 Tachwedd 2017 - 28 Ionawr, 2018
- Amgueddfa Celf Gain Fukui: 20 Ebrill - 10 Mehefin, 2018
Mae Ffrainc a Phrydain: Celf yr oes newydd 1817–1917 yn rhychwantu’r cyfnod rhwng colled y Ffrancwyr ym mrwydr Waterloo a chwalfa’r Rhyfel Byd Cyntaf – canrif lle’r oedd y berthynas rhwng Prydain a Ffrainc yn gyfeillgar. Roedd hynny’n fodd i artistiaid a syniadau gael eu rhannu rhwng y ddwy wlad. O’r ofnau am dlodi gwledig ac anniddigrwydd ymysg gweithwyr, i’r ymgais ddiwedd y 19eg ganrif i dorri’n rhydd o gyfyngiadau academiaeth, mae’r 57 paentiad olew a’r 32 o ddarluniau a dyfrlliwiau yn adrodd hanes newidiadau dramatig ym myd celf.
Amgueddfa Three Gorges, Chongqing, Tsieina
Hywel Dda
Castell Dolbadarn
Medalau Gemau Olympaidd Llundain 2012 a wnaed yn y Bathdy Brenhinol, Llantrisant © LOCOG
Dathlu Cymru yn Tsieina
Mae Amgueddfa Three Gorges yn Chongqing, Tsieina yn cynnal arddangosfa newydd sbon ar hanes Cymru, 'Wales, Land Of The Red Dragon' rhwng 4 Mawrth a 30 Mehefin 2013.
Trefnwyd yr arddangosfa gan Amgueddfa Cymru fel rhan o ddathliadau wythnos Cymru yn Chongqing 2013.
Mae Wales, Land Of The Red Dragon yn gyflwyniad i Gymru ac yn arddangos nifer o wrthrychau pwysig o'n casgliadau eang.
Ceir cip ar gymeriad unigryw Cymru drwy ei diwylliant a’i hieithoedd, ei hanes a’i thirwedd.
Ymhlith y themâu pwysig mae’r cyfraniadau niferus gan Gymry i ddiwylliant byd-eang, megis twf diwydiant modern yn y 18fed a’r 19eg ganrif, datblygiad gwyddor daeareg a’r frwydr dros hawliau’r werin bobl.
Caiff hanes Cymru ei adrodd yn llawn – o goncwest y Rhufeiniaid i goncwest y Saeson yn y 13eg ganrif, ac o fod ar flaen y gad yn y chwyldro diwydiannol i gyfrannu at esblygiad y byd modern.
Ymhlith uchafbwyntiau’r arddangosfa newydd, a noddir gan Lywodraeth Cymru, mae:
- Cwpan aur a chaead ‘Castell Carn Dochan’ a ddarganfuwyd yng ngogledd Cymru ym 1863 ac a fu'n eiddo i Syr Watkin Williams-Wynn o Sir Ddinbych.
- Dysgl a phowlen borslen, gwnaed yn Tsieina tua 1760 – drwy gydol y ddeunawfed ganrif byddai teuluoedd cyfoethog Ewrop yn archebu llestri cinio o Tsieina ag arnynt arfbais y teulu yn addurn a symbol o statws.
- Ffan addurniadol cymhleth o lechen, a wnaed gan chwarelwr o Gymro tua 1910.
Mae’r arddangosfa yn ffrwyth partneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru ac Amgueddfa Three Gorges yn rhanbarth ddinesig Chongqing, sy’n deillio o gytundeb a lofnodwyd yn 2008.
Yn 2011, cynhaliwyd arddangosfa hynod lwyddiannus yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o’r enw O Lethrau Serth: Cerfiadau Carreg Hynafol o Dazu, Tsieina. Trefnwyd yr arddangosfa honno ar y cyd ag Amgueddfa Cerfiadau Carreg Dazu dan nawdd Swyddfa Ddiwylliant Chongqing.
Meddai Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, David Anderson:
"Mae’n bleser gennym gael cyflwyno’r arddangosfa bwysig hon am Gymru i Amgueddfa Three Gorges wedi llwyddiant hynod yr arddangosfa ar Dazu yma yng Nghaerdydd.
"Mae gweithio’n rhyngwladol yn un o’n blaenoriaethau pennaf ac mae’r bartneriaeth hon yn ffordd wych o hyrwyddo casgliadau Amgueddfa Cymru yn Tsieina. Bydd yn gyfle i ni adrodd stori Cymru i gynulleidfa newydd ac i ymwelwyr ddysgu mwy am ddiwylliant, hanes ac amgylchfyd cyfoethog ein cenedl.
"Gobeithiaf y caiff ymwelwyr eu hysbrydoli a’u haddysgu. Pa ffordd well i ddathlu parhad a llwyddiant y cyswllt rhwng Chongqing a Chymru."
-->
Sôn wrth y byd am Gymru
Gwaith rhyngwladol yw un o'n prif flaenoriaethau. Rydym yn datblygu proffil rhyngwladol Amgueddfa Cymru trwy nifer o brojectau a phartneriaethau, er mwyn i ni allu hyrwyddo ein casgliadau ardderchog ledled y byd.
Mae'r Amgueddfa'n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o hyrwyddo delwedd gadarnhaol o Gymru. Ar unrhyw adeg, mae cannoedd o weithiau celf ar fenthyg i amgueddfeydd ac orielau ledled y byd.
Mae projectau'r gorffennol fel taith Turner to Cezanne: Masterpieces from the Davies Collection i UDA (2009/10), Gŵyl Bywyd Gwerin Smithsonian (2009) a nifer o fentrau eraill o fudd i Gymru gyfan, nid y sectorau diwylliant a thwristiaeth yn unig.
Mae ein gwefan yn dod â'n casgliadau a'n hymchwil yn fyw i gynulleidfaoedd ledled y byd, gan sicrhau presenoldeb Cymru ar lwyfan y byd.
Os hoffech ein cynorthwyo i hyrwyddo Cymru dramor, cysylltwch â
Heledd Fychan.