Ymgyrch Mai Di-Dor yn Amgueddfa Wlân Cymru: Beth rydyn ni’n ei wneud a pham mae’n bwysig Heather Jackson & Debby Mercer, 3 Mehefin 2026 Bob mis Mai, fel rhan o ymgyrch Mai Di-Dor, mae Amgueddfa Wlân Cymru yn caniatáu i rannau o’i thirwedd dyfu, gan greu lle i flodau gwyllt, pryfed a’r ecosystem ffynnu. Drwy gamu’n ôl rhag torri’r gwair fel arfer, hyd yn oed am gyfnod byr, mae’r tiroedd yn cael eu trawsnewid, gan ddangos faint mae bywyd yn dibynnu ar wair hir a newid tymhorol.Mae gan yr Amgueddfa gysylltiad dwfn â’r dirwedd o’i chwmpas, o’r defaid sy’n cyflenwi’r gwlân i’r cynefinoedd ar garreg ei drws. Ar y safle mae tair erw a hanner o ddôl, gyda Nant Bargod a Nant Bran, llednentydd yr Afon Teifi, yn ffinio â hi. Ochr yn ochr â hyn mae gardd liwurau’r amgueddfa—gofod sydd wedi’i drin, ond sydd yr un mor gyfoethog o ran lliw, hanes a bywyd gwyllt.Gyda’i gilydd, mae’r mannau hyn yn dangos sut gall newid syml yn y dull o reoli tir gefnogi amgylchedd ffyniannus a chydgysylltiedig.Tirwedd Dôl FywI ffwrdd o sŵn peiriannau’r felin, mae’r ddôl yn cynnig man mwy tawel a myfyriol. Caiff y gwair ei dorri’n dymhorol yn lle ei dorri’n aml, ac mae’n cynnig cynefin pwysig i amrywiaeth eang o rywogaethau. Mae’r dull hwn wrth wraidd ymgyrch Mai Di-Dor, gan ganiatáu i wair a blodau gwyllt dyfu, blodeuo a hadu.Mae’r math hwn o laswelltir garw a llaith—a elwir yn rhos—yn dod yn gynyddol brin. Mae’n hanfodol ei reoli’n ofalus, gan y gall torri gormod ar y gwair neu rywogaethau ymledol fel Clymog Japan darfu’n gyflym ar y cydbwysedd sy’n galluogi bywyd gwyllt i ffynnu.Yn y gwanwyn a’r haf, mae’r ddôl yn dod yn fyw. Mae gloÿnnod byw fel yr Iâr Fach Dramor a’r Fantell Goch yn hedfan ymhlith y blodau, tra bod y Brithribin Brown prin yn dodwy wyau ar ddrain duon yn y gwrychoedd. Mae gwenyn yn casglu neithdar o feillion a drain gwynion, mae buchod coch cwta yn bwydo ar bryfed gleision, ac mae mursennod yn hofran ar hyd glannau’r afon. Mae arolygon hyd yn oed wedi cofnodi dros 30 rhywogaeth o chwilod ar y safle.Mae bywyd planhigion yr un mor bwysig. Mae glaswelltau brodorol fel cynffonwellt y maes a pheiswelltydd yn cefnogi blodau gwyllt gan gynnwys y bengaled, blodau’r llefrith a thansi, tra bod ardaloedd gwlypach yn gartref i frwyn, erwain a thriaglog. Gyda’i gilydd, mae’r planhigion hyn yn darparu bwyd a lloches i bryfed, adar ac anifeiliaid eraill.Un ardal arbennig o gyfoethog yw sianel gorlif yr afon, lle mae llifogydd tymhorol yn cludo maetholion sy’n annog amrywiaeth dwys o fywyd planhigion. Mae’n ein hatgoffa bod prosesau naturiol yn dal i siapio’r dirwedd.Drwy ganiatáu i’r ddôl dyfu drwy fis Mai, mae ymgyrch Mai Di-Dor yn cefnogi’r cynefin cymhleth a ffyniannus hwn.Yr Ardd Liwurau: Crefft a Bywyd GwylltOchr yn ochr â’r ddôl, mae’r ardd liwurau yn cynnig amgylchedd mwy strwythuredig, gyda’i gwreiddiau yn hanes cynhyrchu tecstilau. Am filoedd o flynyddoedd, byddai pobl yn defnyddio planhigion a mwynau i liwio ffibrau, arfer a barhaodd ym melinau gwlân Cymru ymhell i’r ugeinfed ganrif cyn i liwurau synthetig ddod yn fwy cyffredin.Heddiw, mae’r ardd liwurau yn ailgysylltu â’r traddodiad hwn, gan ganiatáu i’r amgueddfa archwilio’r daith o blanhigyn i ffabrig lliw. Wedi’i datblygu dros lawer o flynyddoedd a bellach yng ngofal yr ymarferydd lliwio naturiol Susan Martin, gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae’n ardd weithredol ac yn lle i ddysgu.Yn ystod y tymor tyfu, mae’r ardd yn llawn lliw—yn ofod croesawgar i ymwelwyr ond hefyd yn denu ystod eang o fywyd gwyllt. Mae’r ardal hon yn elwa ar yr un egwyddor sydd y tu ôl i ymgyrch Mai Di-Dor—rhoi lle ac amser i blanhigion dyfu.Bywyd gwyllt ar draws y safleAr draws y ddôl a’r ardd liwurau, mae ystod amrywiol o rywogaethau, gyda phob un yn chwarae eu rhan yn cynnal iechyd yr amgylchedd.Mae gloÿnnod byw ymhlith yr ymwelwyr amlycaf, ond mae llawer o rywogaethau yn profi dirywiad hirdymor. Un rheswm am hyn yw’r diffyg planhigion addas i lindys. Nid yw’r blodau sy’n denu gloÿnnod byw bob amser yr un rhai â’r planhigion maen nhw’n dodwy wyau arnynt.Yn yr Amgueddfa, mae planhigion a gaiff eu hystyried yn aml yn “chwyn”—fel danadl poethion, ysgall a helyg—yn cael tyfu mewn ardaloedd penodol, gan ddarparu cynefinoedd hanfodol i lindys.Mae gwenyn yr un mor bwysig, o’r cacwn cyfarwydd i rywogaethau fel y cardwenyn. Mae pryfed hofran, sy’n aml yn cael eu camgymryd am wenyn meirch, hefyd yn chwarae rôl ddeuol: fel oedolion maen nhw’n peillio planhigion, tra bod eu larfa yn bwydo ar bryfed gleision, gan helpu i amddiffyn bywyd planhigion.Nid yw bywyd gwyllt bob amser yn amlwg ar yr olwg gyntaf. Mae mwydod yn hanfodol i iechyd pridd, gan awyru’r tir a thorri deunydd organig i lawr. Maen nhw hefyd yn ffurfio rhan bwysig o’r gadwyn fwyd—does dim byd yn well gan wahadden na gwledd o fwydod.Mae adar yn ymwelwyr rheolaidd hefyd. Mae’r robin goch yn gydymaith cyfarwydd i arddwyr, yn aml yn ymddangos pan fydd y pridd yn cael ei aflonyddu gan olygu bod pryfed yn dod i’r wyneb.Mae’r ystod o gynefinoedd ar draws y safle hefyd wedi arwain at nodi rhywogaethau llai cyffredin. Mae gwyddonwyr yr Amgueddfa wedi cofnodi’r pry cop Araeoncus humilis, sydd wedi’i ddosbarthu’n rhywogaeth fregus yng ngwledydd Prydain—gan amlygu pwysigrwydd cynnal yr amgylcheddau hyn.Edrych ymlaen ac ymweldDim ond un o’r ffyrdd mae Amgueddfa Wlân Cymru yn cefnogi bioamrywiaeth yw ymgyrch Mai Di-Dor, ond mae ei heffeithiau i’w gweld ar draws y safle cyfan.Drwy ganiatáu i wair a blodau gwyllt dyfu, mae’r amgueddfa’n creu amodau lle gall pryfed, adar ac anifeiliaid ffynnu. Mae mannau fel yr ardd liwurau yn dangos nad yw cadwraeth a threftadaeth ddiwylliannol yn ddau beth ar wahân, ond bod cysylltiad dwfn rhyngddynt.Mae hi wedi bod yn gyffrous gweld yr amrywiaeth o fywyd gwyllt sy’n ymweld â thir yr amgueddfa, ond mae bob amser mwy i’w ddarganfod. Mae gwaith yn mynd rhagddo i gefnogi’r cynefinoedd hyn, gan gynnwys cynlluniau i gamerâu bywyd gwyllt ganfod mwy fyth o rywogaethau sy’n ymweld.Anogir ymwelwyr i archwilio’r dirwedd. Ym mis Ebrill eleni, gwnaed llwybr cul drwy’r ddôl, gan alluogi ymwelwyr i ymlwybro drwy’r gwair hir heb darfu ar y bywyd gwyllt.Mae Llwybr y Ddôl yn amlygu rhai o’r planhigion a’r anifeiliaid sydd i’w cael ar draws y safle, tra bod arwyddion, a gefnogir gan brosiect TYFU Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn esbonio pwysigrwydd mentrau tymhorol fel ymgyrch Mai Di-Dor.Drwy adael i’r gwair dyfu, mae Amgueddfa Wlân Cymru yn datgelu byd cudd—un sy’n newid gyda’r tymhorau ac sy’n gwobrwyo’r rhai sy’n cymryd amser i edrych ychydig yn agosach.
Bylbcast 2025-2026! Megan Naish, 29 Mai 2026 Helo Gyfeillion y Gwanwyn,Dyma ein ffilmiau Bulbcast anhygoel ar gyfer eleni!Enillwyr/Winners: Cortamlet PrimaryYn Ail / Runners-up: St Patrick’s RC PrimaryLeslie PrimaryPinehurst PrimaryYn Drydydd/Third Place:St Michael’s CladyDa iawn bawb, mae wedi bod yn hyfryd gweld yr holl waith caled rydych chi wedi'i roi i'r prosiect eleni. Diolch i chi am gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, gobeithio y byddwch chi'n mwynhau eich gwobrau!-Athro’r Ardd
Aelod o staff Amgueddfa Cymru yn graddio o gwrs Cenedlaethau'r Dyfodol! Kate Breeze, 21 Mai 2026 Ym mis Mawrth fi oedd y person cyntaf erioed o Amgueddfa Cymru i raddio o Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau'r Dyfodol (AACD)!Mae AACD yn cael ei redeg gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ac yn dod â grŵp dethol o bobl ifanc 18-30 oed o bob cwr o Gymru at ei gilydd i ddatgloi sgiliau arwain ac ehangu gwybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.Dechreuodd hyn i gyd pan gyhoeddodd Amgueddfa Cymru eu bod nhw wedi derbyn cyllid drwy Broject Cronfa Arloesi Treftadaeth y Loteri Genedlaethol #GROW i noddi cyfranogwr, sy’n arwain at y person yn gweithio gydag Arweinydd Project #GROW i gefnogi cynaliadwyedd a gweithredu dros yr hinsawdd yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Dwi wastad wedi bod yn angerddol am natur a sut all natur siapio ein hunaniaeth, ein lle yn y byd a'n lles. Fel siaradwr Cymraeg ail iaith hefyd, dw i wastad wedi ffeindio’r ffordd mae iaith a natur yn pontio ac yn gallu ysgogi cysylltiadau gwahanol â'n cynefin yn hynod ddiddorol. Roedd hwn yn gyfle perffaith i roi’r angerdd hwn ar waith a chyfoethogi fy sgiliau a ’ngwybodaeth drwy AACD.Roeddwn i mor gyffrous i fod yn rhan o AACD 5.0 eleni a'r cyfranogwr cyntaf erioed o Amgueddfa Cymru – roedd yn wefreiddiol ac ychydig yn frawychus i fod y person cyntaf erioed. Ond mae wedi bod yn gyfle anhygoel i ennill sgiliau i danio newidiadau cadarnhaol yn y sefydliad wedi'u hysbrydoli gan werthoedd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Fel corff cyhoeddus, mae Amgueddfa Cymru yn dod dan ofynion y Ddeddf, ac mae'n hanfodol bod gan y cenedlaethau nesaf o staff y wybodaeth a'r profiad i'w sianelu yn weithredoedd cadarnhaol.Dechreuodd fy nhaith AACD gyda chyfnod preswyl lle cwrddais i â'm cohort am y tro cyntaf. Fe wnaethon ni rannu syniadau ac amcanion, ac yn rhwydweithio fel arweinwyr y dyfodol. Cwrddon ni hefyd â'r siaradwyr preswyl, cyn-fyfyrwyr yr Academi, a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Derek Walker. Roedd hyn yn hynod ysbrydoledig ac yn gosod y naws ar gyfer fy sesiynau hyfforddi bob pythefnos ar draws y rhaglen 8 mis.Dysgais amrywiaeth o bethau – o sut i weithredu ac ystyried saith cenhedlaeth i’r dyfodol ac adeiladu economi lles, i sut mae arweinwyr eraill yn arloesi dan y Ddeddf. Gwnaeth ein cwrs preswyl olaf yng Ngogledd Cymru sbarduno fy syniadau ymhellach ac adeiladu fy rhwydweithiau gyda phobl sy'n gwneud gwaith mor anhygoel ar draws y sector cyhoeddus, trydydd a phreifat yng Nghymru. Wrth I'r hyfforddiant ddatblygu, roeddwn i hefyd yn rhannu ac yn trafod syniadau gyda gwahanol gydweithwyr, ac mae wedi bod mor foddhaol gweld sut mae pobl eraill yn gyffrous am y potensial o weithio mewn ffyrdd newydd.O'r diwedd, daeth fy mhrofiad i ben gyda seremoni raddio llawn hwyl ond chwerw-felys yng Nghaerdydd gyda fy nghohort, Swyddfa Cenedlaethau'r Dyfodol, cyn-fyfyrwyr, a chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a sefydliadau. Fe wnes i hyd yn oed gymryd rhan fel siaradwr i gyflwyno fy nghynllun newid (mwy am hynny isod!). Roedd yn anhygoel gallu rhannu sut rydw i wedi ymgorffori fy sgiliau a'm gwybodaeth newydd mewn cynllun.Felly beth sy’n nesaf? Fel rhan o'r AACD, mae pob person yn creu rhywbeth o'r enw 'Cynllun Newid'; sef cynnig yn eich maes arbenigol sy'n sianelu eich gwybodaeth newydd yn gynllun ymarferol fel bod eich gweithle yn alinio'n well â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae fy nghynllun newid yn edrych ar sut allwn ni gyfuno iaith, natur a chynefin i ddatblygu cyfleoedd i gynulleidfaoedd Amgueddfa Cymru sy'n ysgogi cysylltiad, perthyn a lles ac yn helpu pobl i gysylltu â'u cynefin ac â natur yn gyffredinol. Mae cysylltu'r rhain nid yn unig yn meithrin dysgu dyfnach a gofalu am y byd naturiol, mae'n gwahodd pobl i ailgysylltu â natur, yn rhannu treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol ac yn cysylltu iaith â llythrennedd ecolegol.Canlyniad hyn fydd cyfrannu at Gymru yfory lle mae cysylltiadau, gwybodaeth a gofal cynyddol pobl am natur yn meithrin gwytnwch. Mae hefyd yn dangos sut y gall Amgueddfa Cymru fod yn ganolbwynt i'r Gymraeg fel ffordd o fwynhau natur a chynefin – wedi'u hysbrydoli gan ein casgliadau, ein lleoliadau, ein rhaglenni, ein digwyddiadau a'n profiadau.Rydw i'n hynod falch o fod wedi cael y cyfle hwn i ddatblygu cynllun uchelgeisiol, newydd sbon, creadigol sy'n cyd-fynd â nodau sefydliadol Amgueddfa Cymru. Dw i wedi cyffroi i weld sut all gael ei ddefnyddio er mwyn cyfrannu at ddyfodol gwell i Gymru.Ni fyddai'r cyfle hwn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth Project #GROW Cronfa Arloesi Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, sy'n adeiladu gwytnwch yn y gweithle yn wyneb newid yn yr hinsawdd. Rydw i hefyd yn estyn diolch twymgalon i 'nghydweithwyr ar oject GROW, – Sarah Younan, Heather Jackson, Steph Burge, a Victoria Hillman am eu holl gefnogaeth.
Teithio’n ôl mewn amser yn y Storfeydd Archeoleg Gan Aron O’Shea Aron O'Shea - Gwirfoddolwr Archaeoleg, 20 Mai 2026 Ers mis Ionawr 2025, rydw i wedi cael y pleser pur o helpu staff Archeoleg yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd ochr yn ochr â’m cyd-wirfoddolwr, Jeff. Gyda’n gilydd, mae Jeff a minnau wedi gweithio gyda Dr Elizabeth Walker, yr holl-wybodus Evan Chapman, a Siân Iles sydd hefyd yn wych (efallai y byddwch yn ei chofio yn dilyn blog Lleisiau’r Amgueddfa yn y gorffennol. Dyma flog byr am yr hyn yr ydym wedi’i gyflawni hyd yma. Ar y diwedd, rydw i wedi cynnwys dolenni i rai o’r deunyddiau ychwanegol ar-lein i’r rhai sy’n dymuno dysgu mwy am yr hyn sy’n cael ei gyflwyno’n fyr yma. Y cam cyntaf ar ein taith trwy’r storfeydd Archeoleg yw Oes y Cerrig (neu’r oes Baleolithig). Yma, fe wnaeth Elizabeth ein cyflwyno i Ogof Coygan, safle ogof bwysig o ganol yr oes Baleolithig (sydd wedi’i ddinistrio gan chwarela) ger Talacharn, Sir Gaerfyrddin.Mae’n ymddangos bod yr ogof wedi cael ei defnyddio fel cuddfan gan udfleiddiaid yn bennaf, o ystyried y casgliad o weddillion anifeiliaid ysglyfaethus mawr, gan gynnwys mamoth, rhinoseros blewog, ceirw mawr a cheffylau, yn ogystal ag amrywiaeth o famaliaid bychain ac adar. Roedd gweddillion anifeiliaid cigysol eraill yn bresennol hefyd, gan gynnwys eirth brown, bleiddiaid a chadno'r Arctig. Hefyd yn nodedig yn safle Coygan, roedd tair enghraifft wych o fwyeill llaw a elwir yn bout coupé, gydag un ohonynt yn cael ei arddangos fel y gwelir yn y llun hwn.Roedd Elizabeth yn ddigon caredig i gymryd amser i egluro sut yr oedd arfau carreg yn cael eu creu (rhywbeth sy’n dal i’m syfrdanu) a sut i ddarganfod arwyddion eu bod wedi cael eu defnyddio. Yn y gorffennol, roedd gweddillion ysgerbydol o safle Coygan yn cael eu storio mewn blychau plastig i’w cadw o fewn eu hystodau tymheredd a lleithder “cyfforddus”. Roedd gwaith uwchraddio ar amodau amgylcheddol y storfeydd yn golygu bod modd ail-becynnu’r gweddillion mewn blychau cardfwrdd archif, a bod modd defnyddio’r cynwysyddion plastig i gadw eitemau eraill. Cafodd Jeff a minnau’r dasg o ail-gartrefu’r dannedd, esgyrn a’r ysgarthion ffosiledig gan olrhain lleoliad eu cartref newydd a thicio pob pecyn o weddillion oddi ar restr. Gyda’i gilydd, fe wnaethom ni drosglwyddo mwy na 2,000 o fagiau o weddillion a llwyddo i ad-hawlio rhywfaint o silffoedd o le storio! Gan nad oeddwn wir wedi ystyried bywyd (a marwolaeth) creaduriaid cyn-hanesyddol o’r blaen, roedd yn deimlad gostyngedig (ac yn syndod) i feddwl am faint a mathau’r anifeiliaid a fyddai wedi byw gyda Neanderthaliaid a bodau dynol modern.Roedd un o’n prosiectau nesaf yn golygu ein bod yn neidio ymlaen i gyfnod y Rhufeiniaid ym Mhrydain! Yn fwy penodol, fe wnaethom ni gyrraedd dinas Rufeinig Venta Silurum, y “farchnad” a phrif ddinas weinyddol y llwyth Silure a oedd wedi’i sefydlu a’i leoli yn yr ardal a elwir erbyn heddiw yn ‘Caerwent’.Mae rhannau helaeth o waliau cerrig y ddinas a sylfeini rhai o’r adeiladau’n dal i sefyll heddiw - ewch i ymweld â’r ardal i weld drosoch chi eich hun! Cynhaliwyd sawl cloddfa yn Venta Silurum, y cyntaf gan Gronfa Archwilio Caerwent (CEF) ym 1899-1913 ac yn ddiweddarach gan Amgueddfa Cymru o 1981 i 1995. Ymysg y darganfyddiadau o ganlyniad i’r cloddiadau diweddarach (a fethwyd gan y CEF!) oedd y bwcl gwregys aloi copr hyfryd a welir isod, a gallwch ddarllen mwy amdano yma.Heblaw am y gwaith metel addurniadol hyfryd hwn, daeth cloddiad yr Amgueddfa o’r forum-basilica (adeilad llywodraeth leol gyda marchnad awyr agored) yng Nghaerwent, o hyd i gasgliad sylweddol o... gregyn wystrys, y credir eu bod wedi cael eu bwyta gan swyddogion y llywodraeth. Fe wnaeth Evan, sef Curadur a ffynhonnell yr holl wybodaeth yn ymwneud â phethau o’r storfa, roi’r dasg i ni gofnodi’r cregyn wystrys a’u trefnu yn ôl cam yn y gwaith cloddio. Er bod y gwaith hwn yn llychlyd iawn, roedd yn gyfle gwych i ddysgu mwy am y ddeinameg fwy sifil rhwng yr Ymerodraeth a llwythi lleol sy’n cyferbynnu’n sylweddol â’r gwrthglawdd milwrol yn ardal gyfagos Caerleon.Mae’r uchafbwynt olaf yn y daith gyflym hon drwy diroedd hanesyddol yn ein harwain i’r cyfnod Canoloesol, ac i raddau helaeth, at ddechreuad casgliadau’r Amgueddfa. Mae Amgueddfeydd wedi bod yn adnodd addysgiadol ers amser maith ac yn lleoedd i “arddangos” arteffactau na fyddai’r rhan fwyaf o bobl yn gallu cael mynediad atynt; yn ystod y blynyddoedd cynnar, felly hefyd oedd Amgueddfa Cymru. Ac eithrio derbyn arteffactau newydd ac unigryw, un o’r ffyrdd y byddai amgueddfeydd ac ysgolheigion yn y 19eg ganrif yn gallu dangos neu astudio gwrthrychau archeolegol oedd drwy eu hail-greu. Un enghraifft nodedig o’r arfer hwn oedd creu a gwerthu copïau plaster o wrthrychau ifori canoloesol wedi’u cerfio er enghraifft. Galwyd y copïau hyn a grëwyd yn gelfydd yn “ifori priddin”. Mae arddangosfa ddiweddar gan Sefydliad Celf Courtald ac Arddangosfa Victoria & Albert wedi archwilio’r pwnc yma, a gallwch ddarllen mwy am hynny (a gwylio) yma. Mae casgliad o eitemau ifori o’r fath wedi cael ei brynu a’i gatalogio gan Amgueddfa Cymru (Amgueddfa Hanes Naturiol, y Celfyddydau a Hynafiaeth Cymru gynt) ac ers hynny, mae’r casgliad wedi cael ei gadw o fewn y Storfeydd Archeoleg, ac mae’r panel wedi’i gerfio yn portreadu gwahanol seintiau’n un enghraifft o hyn.Aeth Siân, Uwch Guradur Casgliadau a Datblygiad: Canoloesol, Jeff a minnau ati i bori drwy’r catalog testun yn unig o 1902 a oedd yn cynnwys dros 130 o eitemau “ifori” i geisio paru’r disgrifiadau gyda’r hyn yr oeddem yn ei weld yn y casgliad. Roedd y rhesymeg y tu ôl i hyn yn ddeublyg: yn y lle cyntaf, er mwyn deall pa gopïau sydd yn dal i fod yn rhan o’r casgliadau; ac yn ail, er mwyn gallu adnabod a chysylltu’r arteffactau gyda’r gwreiddiol a oedd wedi’i gopïo. Yn ffodus iawn, roedd hud a lledrith ffotograffiaeth a chasgliadau sydd wedi’u digido’n helaeth yn hwyluso’r gwaith ychydig, gan fod mwyafrif yr eitemau “ifori” a chatalog yr Amgueddfa’n cyfeirio at olygfeydd Beiblaidd neu chwedlonol nad ydynt mor adnabyddus i gynulleidfaoedd modern (fel fi!). Er bod y profiad wedi arwain at sawl enghraifft o déjà vu a oedd yn ddigon i anfon rhywun yn wallgof, yn twrio (yn ofalus) trwy focsys o gastiau (a allai fod yn fawr ac yn lletchwith), rydw i’n teimlo’n freintiedig i fod yn gysylltiedig mewn ffordd fach iawn â chasgliadau cynnar yr Amgueddfa. Roedd y wynebau rhyfedd yr olwg a’r creaduriaid annisgwyl yn bendant yn fonws.Rhag ofn nad yw’n gwbl amlwg - cefais amser gwych yn gwirfoddoli gydag Amgueddfa Cymru. Roedd yn gyfle, nid yn unig i weld rhai o’r arteffactau anhygoel a darnau o hanes Cymru, ond rwyf hefyd wedi cyfarfod â phobl arbennig a charedig sy’n gweithio yn yr Amgueddfa. Mae pawb o’r tîm Diogelwch i’r tîm Gwirfoddolwyr, i’r adran Archaeoleg wedi bod yn hael ac yn groesawus. Byddaf yn trysori’r amser a dreuliwyd yn chwerthin ac yn dysgu yn y storfeydd Archeoleg (ac yn yr ystafell egwyl!).Diolch arbennig i Elizabeth Walker, Evan Chapman, a Siân Iles, gan na fyddwn wedi cael y pleser o gyflawni’r antur uchod hebddynt, ac ni fyddwn wedi deall hanner yr hyn yr wyf yn ei ddeall erbyn hyn. Diolch hefyd i Jeff am ei gyfeillgarwch, ei gefnogaeth, ac yn benodol am ei lais i ddarllen gwahanol rifau a chyfesurynnau.Gwaith darllen pellach:Mae cronfa ddata Casgliadau Ar-lein yr Amgueddfa yn lle gwych i ddod o hyd i luniau a gwybodaeth am wrthrychau!Y cyfnod cyn-hanesyddol[ERTHYGL] ‘A Day in Archaeology – Sorting out the storeroom’ gan Elizabeth Walkerhttps://www.archaeologyuk.org/resource/sorting-out-the-storeroom-dr-elizabeth-a--walker--principal-curator--collections---access--amgueddfa-cymru---national-museum-wales-.html[ERTHYGL] ‘The Cave Men of Ice Age Wales’ gan Elizabeth Walkerhttps://museum.wales/articles/1317/The-Cave-Men-of-Ice-Age-Wales/[ERTHYGL] ‘The oldest people in Wales – Neanderthal teeth from Pontnewydd Cave’ gan Elizabeth Walkerhttps://museum.wales/articles/1014/The-oldest-people-in-Wales---Neanderthal-teeth-from-Pontnewydd-Cave/[FIDEO] Anerchiad Cymdeithas Archeoleg Cambrian i’r Llywydd yn 2022 (Elizabeth A Walker): The significance of Welsh Caves to Palaeolithic Archaeologyhttps://cambrians.org.uk/elizabeth-a-walker-presidential-address-2022/ [Mae gwybodaeth am safle Coygan yn dechrau ar 27:16]Oes y Rhufeiniaid[ERTHYGL] ‘A Day in Archaeology – The Llantrisant Fawr Hoard’ gan Evan Chapman https://www.archaeologyuk.org/resource/llantrisant-fawr-hoard-by-evan-chapman--senior-curator--archaeology-at-amgueddfa-cymru-museum-wales.html[ERTHYGL] ‘Segontium - The Romans in North Wales’ gan Evan Chapmanhttps://museum.wales/articles/1322/Segontium---The-Romans-in-North-Wales/[ERTHYGL] ‘Gelligaer Roman fort’ gan Evan Chapmanhttps://museum.wales/articles/1328/Gelligaer-Roman-fort/Y Cyfnod Canoloesol[ERTHYGL] ‘Medieval Cardiff’https://museum.wales/articles/1334/Medieval-Cardiff/[ERTHYGL] ‘A Day in Archaeology - Medieval Floor Tiles Project at Amgueddfa Cymru’ gan Jennifer Frost (Gwirfoddolwr)https://www.archaeologyuk.org/resource/medieval-floor-tiles-volunteering-project-at-amgueddfa-cymru-museum-wales.html[ERTHYGL] ‘A Day in Archaeology – Medieval Floor Tiles Project at Amgueddfa Cymru: Part 2’ gan Siân Iles https://www.archaeologyuk.org/resource/medieval-floor-tiles-volunteering-project-at-amgueddfa-cymru--part-2--museum-wales-.htmlFfynonellau:Aldhouse-Green, S., Scott, K., Schwarcz, H., Grün, R., Housley, R., Rae, A., Bevins, R. and Redknap, M. 1995. ‘Coygan Cave, Laugharne, South Wales, a Mousterian Site and Hyaena Den: a Report on the University of Cambridge Excavations’, Proceedings of the Prehistoric Society, 61, tud. 37-79.Guest, P. 2022. ‘The Forum-Basilica at Caerwent (Venta Silurum): A History of the Roman Silures’, Britannia, 53, tud. 227-267.
Dysgu ar y Lleuad Heather Jackson, 14 Mai 2026 Wrth i'r tîm technegol straffaglu gyda'r rigin wrth hongian Museum of the Moon gan Luke Jerram, roeddwn i'n taclo her wahanol: sut i greu gweithdai am y Lleuad fyddai'n ysbrydoli, yn cysylltu â'r casgliadau, ac yn apelio at ddisgyblion ar ôl i'r gosodwaith adael yr Amgueddfa.Dyma fi'n dechrau drwy droi at yr arbenigwyr – y gynulleidfa! Roedd Clwb Seryddiaeth Ysgol Stanwell yn allweddol wrth ddatblygu'r gweithdai. Yn ein sesiwn gyntaf dyma fi'n cyflwyno'r holl wrthrychau allen ni eu defnyddio ac fe wnaethon nhw bleidleisio dros y rhai mwyaf diddorol. Yn y sesiwn adborth nesaf dyma nhw'n datblygu cwestiynau oedden nhw am i'r gweithdy eu hateb, ac roedd hi'n amlwg byddai ffotograffau go iawn o alldaith Apollo 12 (wnaeth gasglu'r Garreg Leuad sydd yn oriel Esblygiad Cymru) yn fan cychwyn perffaith. Gyda help Dan Cox, y curaduron Hanes Natur, ac archif NASA dyma fi'n canfod lluniau o'r astronot Alan Bean yn cerdded ar y Lleuad. Fe wnaeth gasglu'r union Garreg Leuad sydd i'w gweld yn oriel Esblygiad Cymru. Ffotograffau o'r gofodwr Apollo 12, Alan Bean, yn casglu samplau o greigiau lleuad, o NASA, a'r Graig Lleuad ar ddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd Mae gan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gasgliad gwych o gerrig a meteorynnau, a dewisodd rhai o'r disgyblion y llwch lleuad replica a'r meteorynnau haearn fel eu hoff wrthrychau. Er mwyn rhoi mwy o flas o'r tirlun dyma fi'n ychwanegu samplau o ddwy garreg sydd i'w canfod ar y Lleuad – basalt olifin a charreg anghyffredin o'r enw anorthosit. Er bod y sampl anorthosit yn y gweithdy o Norwy, cafodd yr un garreg ei chanfod gan alldeithiau Apollo yn ucheldiroedd y Lleuad (y darnau mwy golau ar yr wyneb).Helpodd dau athro uwchradd i ddatblygu naratif ar gyfer y gweithdy, a dyma ni'n gwahodd Clwb Seryddiaeth Stanwell nol i brofi'r gweithgareddau. Profi'r gweithdy gyda Chlwb Seryddiaeth Ysgol Stanwell Roedd hi'n bleser gweld brwdfrydedd y disgyblion dros ein mapiau manwl ni o graterau'r Lleuad. Fe atgynhyrchodd Robin Maggs o'r adran ffotograffiaeth fapiau replica safon uchel o graterau'r lleuad o'r 1970au, er mwyn i'r disgyblion wneud mesuriadau eu hunain a dysgu am ein casgliad mapiau.Dyma ni'n mireinio'r sesiynau gyda help Tim Curtis, Arweinydd Rhifedd yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, a’i ddisgyblion yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, ac rydyn ni'n gobeithio bydd plant yn eu mwynhau nhw am flynyddoedd i ddod.Mae'r gweithdy'n brofiad triw iawn – gall y disgyblion astudio ffotograffau o alldeithiau Apollo, mapiau o'r cyfnod, a samplau o'n casgliadau sydd mor debyg i gerrig o'r lleuad, dim ond daearegydd all ddweud y gwahaniaeth. Profiad go iawn, gyda sbesimenau go iawn, a chanlyniadau gwyddonol go iawn. Disgyblion o Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd yn cymryd rhan yng ngweithdy'r Lleuad, Mapiau a Meteorynnau Dewch o hyd i mwy o wybodaeth am y gweithdy Lleuad, Mapiau a Meteorynnau ar ein tudalennau Addysg