Digwyddiad:Wythnos y Fyddin Rufeinig
Beth am alw draw i ymuno â'r Ail Leng Awgwstaidd a chwrdd â milwr?
Cymerwch olwg ar eu lifrau, eu harfau a'u hoffer milwrol a darganfyddwch sut oedd bywyd i filwr Rhufeinig ar gyrion yr ymerodraeth.
Oes gennych chi'r hyn sydd ei angen i fod yn filwr Rhufeinig?
Bydd cyfle hefyd i roi cynnig ar arfwisg Rufeinig a gorymdeithio gan ddefnyddio gorchmynion Lladin.
Gorffennwch eich ymweliad drwy brynu tystysgrif i ddweud eich bod wedi ymuno â'r fyddin Rufeinig ac wedi ennill eich darn arian cyntaf o gyflog.
Gweithgaredd yn para awr.Gweithgaredd llawn hwyl AM DDIM fel rhan o Ŵyl Amgueddfeydd Cymru. Ariannir yr Ŵyl gan Lywodraeth Cymru.
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd