Digwyddiad: Awr Dawel yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
![](/media/58168/thumb_1600/2023_11_30_NMW_Caerleon_01_8787.jpg)
![](/media/58724/feature-images-2.jpg)
Pecyn synhwyraidd yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Gall llefydd cyhoeddus fod yn straen ac yn llethol i bobl sydd ag anabledd neu anghenion arbennig, a gall hyn achosi gorlwytho synhwyraidd. Drwy leihau sŵn, goleuadau llachar a rhwystrau eraill gallwn ni greu awyrgylch cynhwysol, diogel, tawel i bobl ei fwynhau. Dewch i Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru a chrwydro'r Amgueddfa yr Awr Dawel.
- Mae Pecynnau synhwyraidd ar gael o'r Dderbynfa.
- Stori Weledol: Taith i Gaerllion Y Rhufeiniaid, gall fod yn ddefnyddiol wrth gynllunio eich ymweliad.
- Mae toiledau hygyrch ar gael yn yr Amgueddfa.