Digwyddiad:Teithiau Sain Ddisgrifiad yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Dewch i fwynhau taith sain ddisgrifiad yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, a dysgu mwy am fywyd yng Nghaerllion oes y Rhufeiniaid. 

Mae'r daith am ddim hon ar gyfer ymwelwyr dall neu â nam ar eu golwg. Bydd digon o gyfle i ddal a gwisgo gwrthrychau replica. 

Mae'r daith i gyd yn yr Amgueddfa, a does dim angen cerdded pellter hir. 

Mae toiledau hygyrch ar gael yn yr Amgueddfa. Bydd y daith yn para tua 1 awr.

E-bostiwch learning.romans@museumwales.ac.uk i drefnu apwyntiad.

Gwybodaeth

Ar gael o ddydd Mercher i ddydd Gwener, cysylltwch â ni ymlaen llaw i drefnu
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Archebu lle Gorfodol
Tomenni bysedd yn cyffwrdd â charreg lwyd wedi'i engrafio â llythrennau coch
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Ymweld

 Oriau Agor

Dydd Llun 10 am–5 pm
Dydd Mawrth 10 am–5 pm
Dydd Mercher 10 am–5 pm
Dydd Iau 10 am–5 pm
Dydd Gwener 10 am–5 pm
Dydd Sadwrn 10 am–5 pm
Dydd Sul 10 am–5 pm

 Lleoliad

Caerllion, ger Casnewydd 
NP18 1AE

 Bwyta, Yfed, Siopa

  • Nid oes caffi yn yr Oriel ond ceir nifer o fannau bwyta yng nghanol tref Caerllion.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, ond nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa.

 Lleoliad

 Parcio

Gallwch barcio naill ai ar Broadway (ger yr amffitheatr), Stryd yr Amgueddfa (nifer gyfyngedig o lefydd parcio) neu oddi ar y Stryd Fawr ger y Baddonau. Mae cyfleusterau parcio beiciau ar gael yn yr amffitheatr.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau