Digwyddiadau

Digwyddiad: Gŵyl Archaeoleg: Diwrnod Allan yn y Farchnad

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Wedi'i Orffen
13 Gorffennaf 2024 , 10am - 4pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Archebu lle Galw heibio

Dewch i ddathlu’r Wŷl Archaeoleg ac ymunwch â ni am ddiwrnod allan mewn marchnad Rufeinig.


Cewch roi cynnig ar falu grawn, gwneud bara, siopa yn y farchnad a chwarae gemau Rhufeinig – ond cadwch lygad am Marcus, mae e’n twyllo!

 

Bydd gennym ni hefyd rywfaint o geoffiseg yn yr ysgol gyfagos, Ysgol Charles Williams, i ddathlu ei thrichanmlwyddiant eleni.

Mae’r ysgol, sydd gyferbyn â’r amgueddfa, wedi’i lleoli yng nghalon y gaer Rufeinig. Bydd y geoffiseg yn rhoi cipolwg diddorol o beth sy’n gorwedd o dan y wyneb.


Mae gwneud bara yn weithgaredd Talu Beth Allwch Chi gydag isafswm cyfraniad o £1.
 

Digwyddiadau