Cwrs:Cyflwyniad i Mosaigau
Ymunwch â Justine Stroud o Primary Colours Murals & Mosaics er mwyn dewch i ddysgu sut i greu mosaigau mewn amgylchedd cyfeillgar a hwyliog.
Bydd digonedd o deils mosaig o wahanol siapiau a lliwiau i'w dewis, er mwyn creu arwydd gyda rhif eich tŷ.
Byddwn yn rhoi’r holl gyfarwyddiadau i wneud mosaig o’r dechrau i’r diwedd, gan gynnwys sut i dorri teils a growtio. Mae’r pris yn cynnwys yr holl gyfarwyddiadau, y deunyddiau a’r offer.
Yn y bore byddwch chi'n ymuno â Dr Mark Lewis, yr Uwch Guradur Archaeoleg Rufeinig, am daith tu ôl i'r llenni i weld rhai o ddarnau mosaig Caerllion Rufeinig a sgwrs fer am hanes y grefft yn Ne Cymru a thu hwnt.
Cynhelir y cwrs yma yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru. Defnyddiwch god post NP18 1AE ar gyfer llywio â lloeren.
Gallwch barcio naill ai ar Broadway (ger yr amffitheatr), Stryd yr Amgueddfa (nifer gyfyngedig o lefydd parcio) neu oddi ar y Stryd Fawr ger y Baddonau. Mae cyfleusterau parcio beiciau ar gael yn yr amffitheatr.
Cynhelir y cwrs drwy iaith cyntaf yr hwylusydd - sef Saesneg
Oedran addas: 16+. (Rhaid i blant o dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn 18+ sy’n cymryd rhan)
Cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu i drafod anghenion hygyrchedd.
Gwybodaeth
Mosaig
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd