Cwrs:Cyflwyniad i Mosaigau
Ymunwch â Justine Stroud o Primary Colours Murals & Mosaics er mwyn dewch i ddysgu sut i greu mosaigau mewn amgylchedd cyfeillgar a hwyliog.
Bydd digonedd o deils mosaig o wahanol siapiau a lliwiau i'w dewis ac mae pob math o ddyluniadau i’w gwneud ar lefel hawdd, canolig neu anoddach. Gallwch chi wneud un llun mosaig A4. Byddwn yn rhoi’r holl gyfarwyddiadau i wneud mosaig o’r dechrau i’r diwedd, gan gynnwys sut i dorri teils a growtio. Mae’r pris yn cynnwys yr holl gyfarwyddiadau, y deunyddiau a’r offer.
Yn y prynhawn byddwch chi'n ymuno â Dr Mark Lewis, yr Uwch Guradur Archaeoleg Rufeinig, am daith tu ôl i'r llenni i weld rhai o ddarnau mosaig Caerllion Rufeinig a sgwrs fer am hanes y grefft yn Ne Cymru a thu hwnt.
Gwybodaeth Ychwanegol
Iaith
Cynhelir y cwrs drwy iaith cyntaf yr hwylusydd - sef Saesneg
Oedran
16+. (Rhaid i blant o dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn 18+ sy’n cymryd rhan)
Hygyrchedd
Cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu i drafod anghenion hygyrchedd.
Gall darllen y telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau yma.
Gwybodaeth
Tocynnau
Dyddiad | Status | |
---|---|---|
9 November 2024 | Sold Out |