Digwyddiad:Gweithgaredd celf dementia gyfeillgar: Gerddi Rhufeinig a pherlysiau

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Wedi'i Orffen

Ymunwch â ni yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru i ddysgu mwy am y pethau roedd y Rhufeinwyr yn tyfu yn eu gerddi a defnydd y gwahanol berlysiau a phlanhigion. Gan ddechrau gyda thaith fer o amgylch ein gardd Rufeinig, bydd cyfle wedyn i flasu rhai o'r perlysiau sy'n cael eu tyfu yn yr amgueddfa.

Bydd y sesiwn yn cynnwys:

  • Croeso cynnes mewn lleoliad pwrpasol
  • Cyfle i fwyhau ein mannau awyr agored
  • Diod gynnes a sgwrs

Bydd y sesiwn i gyd yn yr Amgueddfa, felly bydd dim angen cerdded yn bell o le i le. Mae'r sesiwn yn para tua 2 awr, gydag egwyl a lluniaeth. 

Ar ein gwefan mae rhagor o wybodaeth am hygyrchedd yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru.

Mae'r cyfleoedd hyn yn agored yn unig i bobl sy'n byw gyda dementia ac sy'n cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia.

Rhaid archebu ymlaen llawI archebu lle, cliciwch ar y blwch ‘Archebu tocynnau’ i’r dde’. Neu gallwch chi ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Mae cefnogaeth ar gael os yw teithio'n broblem.

Am ragor o wybodaeth, neu i siarad trwy unrhyw bryderon am ymuno â ni, anfonwch e-bost at mims@amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch (029) 2057 3418.

Gwybodaeth

13 Chwefror 2026, 11am-1pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb sydd wedi’u heffeithio gan ddementia
Pobl yn eistedd mewn ystafell wedi'i themâu Rufeinig yn edrych ar berlysiau gwyrdd
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau