Digwyddiad:Gweithgaredd celf dementia gyfeillgar: Dysgu am batrymau Rhufeinig drwy greu mosaig

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Wedi'i Orffen

Ymunwch â ni yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru i ddysgu am y patrymau sydd i’w gweld mewn mosaigau Rhufeinig. Dewch i ddysgu’r broses o lunio a gwneud eich teils eich hun i fynd adre gyda chi.

Bydd y sesiwn yn cynnwys:

· Croeso cynnes mewn lleoliad pwrpasol

· Cyfle i fwyhau gweithgaredd crefft ysgafn

· Diod gynnes a sgwrs

Bydd y sesiwn i gyd yn yr Amgueddfa, felly bydd dim angen cerdded yn bell o le i le. Mae'r sesiwn yn para tua 2.5 awr, gydag egwyl a lluniaeth. Ar ein gwefan mae rhagor o wybodaeth am ⁠hygyrchedd yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru.

Mae'r cyfleoedd hyn yn agored yn unig i bobl sy'n byw gyda dementia ac sy'n cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia.

Rhaid archebu ymlaen llaw. I archebu lle, cliciwch ar y blwch ‘Archebu tocynnau’ i’r dde’. Neu gallwch chi ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Mae cefnogaeth ar gael os yw teithio'n broblem.

Am ragor o wybodaeth, neu i siarad trwy unrhyw bryderon am ymuno â ni, anfonwch e-bost at mims@amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch (029) 2057 3418

     

Gwybodaeth

30 Ionawr 2026, 1pm-3:30pm⁠
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb sydd wedi’u heffeithio gan ddementia
Pobl yn gwenu tra yn gwneud mosaig Rhufeinig
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau