Canllawiau Mynediad – Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Mae Amgueddfa Cymru wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn hygyrch i’n hymwelwyr er mwyn sicrhau bod y nifer ehangaf o bobl yn gallu mwynhau ein hamgueddfa, ein casgliadau a’n harddangosfeydd. Mae rhagor o wybodaeth am y cyfleusterau hygyrch a’r adnoddau ar draws y safle isod.

Mae mapiau o’r Amgueddfa ar gael wrth y Dderbynfa yn y brif neuadd. Gallwch chi lawrlwytho map cyn eich ymweliad.

Mae’r Amgueddfa am ddim i bawb. Efallai bydd tâl yn cael ei godi am rai arddangosfeydd a gweithgareddau. Gallwch chi archebu tocynnau wyneb yn wyneb neu ar-lein.

Datganiad hygyrchedd ein gwefan

Rydyn ni’n falch o fod yr amgueddfa gyntaf i ddod yn aelod o’r cynllun Mynediad Cenedlaethol, sef Hynt. P’un a ydych chi’n unigolyn neu’n sefydliad, gallwch chi gael tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion ar gyfer rhai o’n digwyddiadau a’n harddangosfeydd. 

Mae Hynt yn fenter Cyngor Celfyddydau Cymru a reolir gan Greu Cymru mewn partneriaeth â Diverse Cymru gallwch chi wneud cais i fod yn aelod ar wefan Hynt

Archebu tocyn gyda cherdyn Hynt

Pan fyddwch chi’n archebu eich tocyn gyda cherdyn Hynt, byddwn ni’n gofyn am eich rhif cyfeirnod Hynt unigryw. Gallwch chi archebu eich tocynnau gyda ni yn y ffyrdd canlynol:

  • Wyneb yn wyneb yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd – bydd ein Cynorthwywyr Amgueddfa cyfeillgar wrth y Dderbynfa yn hapus i’ch helpu chi.
  • Neu ar-lein – cliciwch ar y ddolen hon i ddechrau arni. Os ydych chi wedi archebu gyda ni ar-lein gan ddefnyddio rhif cod bar Hynt dilys, bydd eich cyfrif Hynt yn cael ei ychwanegu at eich cyfrif Amgueddfa Cymru er eich hwylustod yn y dyfodol. Sylwch y gallai gymryd hyd at 24 awr i’ch aelodaeth Hynt gael ei hychwanegu at eich cyfrif ar-lein. 

Bydd tocynnau’n cael eu rhoi i ddeiliad y cerdyn, a bydd angen iddo gyflwyno ei gerdyn Hynt ffotograffig ym mhob arddangosfa neu ddigwyddiad y bydd yn ei fynychu. Bydd nifer y tocynnau Hynt sydd ar gael i'w harchebu ar-lein yn gyfyngedig, ac yn seiliedig ar y nifer a osodwyd gan Hynt yn ystod y broses ymgeisio. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dewis y nifer briodol o docynnau ar gyfer holl aelodau eich grŵp.

Mynedfa ac allanfa’r Amgueddfa

Mae prif fynedfa ac allanfa’r Amgueddfa ar y Stryd Fawr. Mae nifer o risiau yn arwain at fynedfa’r Amgueddfa. Mae mynediad i ddefnyddwyr cadair olwyn i’r dde o’r grisiau blaen. Mae mynedfa wastad i’r Amgueddfa, trwy ddrysau gwydr.  

Parcio hygyrch

Mae llefydd parcio 50 llath o fynedfa’r Amgueddfa i lawr y stryd gerllaw. Dydy’r rhain ddim wedi’u dynodi ar gyfer deiliaid bathodyn glas.

Mae llefydd parcio am ddim ychwanegol ar gael ar Broadway (wrth yr Amffitheatr), neu gallwch chi barcio yn y maes parcio talu ac arddangos oddi ar y Stryd Fawr gerllaw’r Baddonau Rhufeinig.

Er mwyn eich helpu chi i gynllunio eich ymweliad, cymerwch gip ar ein stori weledol. Mae’n cynnwys ffotograffau a gwybodaeth i ddangos beth allwch chi ei ddisgwyl o’ch ymweliad â’r Amgueddfa.

Adegau Tawel  

Gall yr Amgueddfa fod yn brysur iawn ac yn swnllyd weithiau. Yr adeg dawelaf i ymweld â’r Amgueddfa yw 3pm ymlaen, fel arfer. Mae ein holl orielau yn cau am 4.45pm ac mae’r Amgueddfa yn cau am 5pm.  

Ardaloedd tawel 

Yr Ardd Rufeinig yw ein hardal dawelaf.

Goleuadau a thymheredd 

Rydyn ni’n argymell i chi ddod â dilledyn ychwanegol, ymbarél neu gôt law gyda chi i ymweld â’r Ardd Rufeinig. 

Mae’r tymheredd yn amrywio wrth i chi symud trwy’r Amgueddfa ac mae rhai gofodau yn eithaf oer. Efallai hoffech chi ddod â dilledyn ychwanegol gyda chi i’w wisgo yn yr ardaloedd hyn.

Gan fod llawer o fannau awyr agored hefyd, cofiwch wisgo dillad addas i’r tywydd.

Llawr anwastad 

Byddwch yn ofalus ar y llwybrau yn yr Ardd.  

Benthyg cadair olwyn 

Mae cadair olwyn ar gael ar gais. Dim ond un gadair olwyn sydd gennym ni, felly rydyn ni’n argymell i chi ei harchebu ymlaen llaw. Ffoniwch 0300 111 2 333 neu e-bostiwch LlengRufeinig@amgueddfacymru.ac.uk  

Sgwteri symudedd 

Mae croeso i chi ddefnyddio sgwteri symudedd yn yr Amgueddfa.

Clirio’r safle mewn argyfwng  

Mae’n annhebygol y bydd larwm yn canu yn ystod eich ymweliad. Os bydd un yn canu, peidiwch â phoeni – dilynwch unrhyw gyfarwyddiadau gan aelodau staff, a fydd yn eich tywys chi i’r allanfa ddiogel agosaf. Mae larymau tân gweledol gyda goleuadau sy’n fflachio yn gweithredu hefyd.

Mynediad o amgylch ein safle  

Mae Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru i gyd ar un lefel. Mae lefel y llawr yn codi ychydig mewn mannau ac mae ramp cludadwy ar gael i fynd i’r ardaloedd hyn.  

Os nad ydych chi'n gallu cerdded neu angen defnyddio cadair olwyn ac yr hoffech chi ymweld â Chanolfan Capricorn ac Ystafell y Barics, siaradwch ag aelod o staff wrth y Dderbynfa.

Mae mynedfa arall ar gael i Ystafell y Barics trwy 4 gris, neu drwy ddefnyddio drws ochr y tu allan i flaen yr Amgueddfa. Bydd staff yn agor y fynedfa hon ar gais.

Toiledau Hygyrch

Mae dau doiled hygyrch ar gael. Mae’r rhain yn addas i gadeiriau olwyn o faint safonol yn unig.

Cyfleusterau newid cewynnau

Mae cyfleusterau newid cewynnau ar gael yn un o’r toiledau hygyrch.

Seddi

Mae seddi ar gael yn yr Oriel ac yn yr Ardd.  

Mae croeso i chi ddefnyddio ffyn cerdded neu stolion plygu â sedd, cyn belled â bod gorchuddion rwber ar y gwaelod.

Seiniau Cyfoethog

Mae dolenni sain ar gael ar gyfer cymhorthion clyw.

Cŵn gwasanaeth

Rydyn ni’n deall y bydd angen i rai o’n hymwelwyr gael cymorth ci gwasanaeth ac rydyn ni’n falch o groesawu cŵn gwasanaeth sydd wedi’u hyfforddi’n briodol.  

Mae croeso i gŵn cymorth ar y safle ar yr amod eu bod nhw’n aros ar dennyn.

Lle y bo’n bosibl, dylai perchnogion cŵn ddod â’u llyfr adnabod perthnasol gyda nhw a dylai’r anifeiliaid wisgo’r tabard neu’r harnais priodol.

Mae dŵr yfed ar gael ar gais wrth y Dderbynfa.

Gofynnwch i aelod o staff eich cyfeirio at y toiled/ardal mynd i’r toiled agosaf.