Canllawiau Mynediad – Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Ymwelwyr gydag anghenion symudedd a defnyddwyr cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio

  • Ceir mannau parcio 50 llath o ffrynt yr amgueddfa i lawr y stryd gerllaw. Nid yw'r rhain wedi'u cadw ar gyfer pobl sydd â bathodynnau oren.

  • Mae ffordd i bobl mewn cadeiriau olwyn neu rai â choetsis babanod/plant bach ddod i mewn i'r amgueddfa i'r dde o'r grisiau yn y tu blaen. Ceir mynedfa wastad i'r amguedddfa, trwy ddrysau gwydr.

  • Gellir mynd i'r Oriel a lefel isaf yr Oriel mewn cadair olwyn gan ddefnyddio ramp.

  • Mae cadair olwyn ar gael i'w defnyddio os gofynnwch amdani. Er na ellir trefnu ymlaen llaw i ddefnyddio'r gadair hon ac mai'r cyntaf i'r felin gaiff falu, byddwn yn rhoi gwybod i'r Swyddfa Docynnau os cawn gais ymlaen llaw.

  • Ceir seddau yma a thraw yn yr Oriel.

  • Mae mynediad i gadeiriau olwyn yn gyfyngedig yng Nghanolfan Capricorn. Mae ramp cludadwy ar waith, gofynnwch i aelod o staff wrth y Ddesg Flaen a byddant yn gosod y ramp. Fel arall, gellir cael mynediad i'r Ystafell Barics drwy ddefnyddio 4 cam, neu drwy ddefnyddio drws ochr y tu allan i flaen yr amgueddfa. Bydd y staff yn sicrhau bod y fynedfa hon ar gael ar gais.

  • Llawr gwastad sy'n arwain i'r adeilad cyswllt.

Ymwelwyr dall neu rhannol ddall

  • Mae llawlyfrau print mawr ar gael i'w benthyg am ddim. Gofynnwch wrth y fynedfa.

Ymwelwyr byddar neu drwm eu clyw

  • Mae defnyddiau ysgrifenedig o safon uchel ar gael yn yr Oriel i gyd—fynd â'r casgliadau.

Anghenion dysgu ychwanegol

  • Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.

Cŵn

  • Dim ond cŵn tywys gaiff eu caniatáu yn yr Amgueddfa.

  • Lle bo'n bosibl, dylai perchnogion cŵn ddod â'u llyfr adnabod perthnasol a dylai anifeiliaid wisgo'r tabard neu harnais priodol, ond nid yw hyn yn ofyniad ar gyfer mynediad.

  • Gallwch ofyn am ddŵr ar gyfer eich ci wrth y dderbynfa.

  • Rhaid iddyn nhw fynd oddi ar y safle i wneud eu busnes ond bydd staff yr amgueddfa ar gael i helpu ar gais.

  • Os nad ydy eich anifail gwasanaethu, tywys neu gymorth emosiynol yn gi, ffoniwch 02920 573 650 neu e-bostiwch rhufeinig@amgueddfacymru.ac.uk cyn i chi ymweld i sicrhau nad ydych chi'n cael eich siomi ar y dydd.