Digwyddiadau

Digwyddiad: CoedLan – Cwrs Rhaffau Sain Ffagan

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
23 Mawrth–7 Ebrill 2024, 10.15am, 11.30am, 12.45pm, 3pm, 4.15pm
Pris £20
Addasrwydd Rhaid bod o leiaf 110cm o daldra i gymryd rhan
Bachgen ifanc ar gwrs rhaffau yn Sain Ffagan
Logo Coedlan, Cwrs raffau uchel Sain Ffagan, ysgrifennu Melyn ar gefndir gwyrdd

Dringwch, neidiwch, camwch a siglwch eich ffordd drwy’r coed fry uwchben adeiladau Sain Ffagan, cyn cymryd y wifren wib yn ôl i dir cadarn. Taclwch 18 rhwystr CoedLan, gan gynnwys y boncyff balans, y bont gam, y rhwydi cargo a’r wifren wib.

Mae'r cwrs yn costio £20 y pen am un daith lawn o gwmpas y cwrs, sy'n cynnwys gwifren wib 50m i orffen. Gallwch brynu eich tocynnau o flaen llaw, neu o'r ddesg yn y prif adeilad. 

Tocynnau

Rhaid bod o leiaf 110cm o daldra, a dros 6 oed, i gymryd rhan. Rhaid i blant rhwng 110cm a 130cm fod yng nghwmni unigolyn dros 130cm a dros 12 oed. Y pwysau trymaf a ganiateir yw 18 stôn.

Dylech wisgo dillad sy'n addas i'r tywydd. Esgidiau yn unig, dim sandalau, sodlau uchel, fflip-fflops nag esgidiau sy'n llithro ymlaen. Rhaid gwagio pocedi, tynnu gemwaith, a chlymu gwallt hir yn ôl.

 

Cwestiynau Cyffredin   

 

Mae tocynnau ar gael i'w harchebu hyd at hanner nos y noson gynt. Bydd nifer cyfyngedig o docynnau ar gael ar y diwrnod. 

Digwyddiadau