Cwestiynau Cyffredin

Logo Coedlan, Cwrs raffau uchel Sain Ffagan, ysgrifennu Melyn ar gefndir gwyrdd

Merch ar gwrs rhaffau Sain Ffagan

Bachgen ar gwrs rhaffau Sain Ffagan

Beth yw CoedLan?

Cwrs rhaffau uchel cyffrous yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yw CoedLan.

Faint mae'n gostio?

Mae'r cwrs yn costio £20 y pen am un daith lawn o gwmpas y cwrs, sy'n cynnwys gwifren wib 50m i orffen.

Oes angen i mi archebu ymlaen llaw?

Prynwch eich tocynnau o flaen llaw neu o'r brif fynedfa. 

Gellir gwirio argaeledd o flaen llaw yma. 

Beth ddylwn i wisgo?

Dylech wisgo dillad cyfforddus sy'n caniatáu i chi symud yn rhwydd. Dylech wisgo esgidiau addas sy'n gadarn ac yn gorchuddio'r bodiau. Ni chewch wisgo sandalau, esgidiau sy'n llithro ymlaen, fflip-fflops, sodlau uchel ac ati ar y cwrs rhaffau uchel. Rhaid clymu gwallt hir yn ôl, a thynnu gemwaith.

Oes unrhyw gyfyngiadau?

Rhaid bod o leiaf 110cm o daldra, a dros 6 oed i gymryd rhan. Rhaid i blant rhwng 110cm a 130cm fod yng nghwmni unigolyn dros 130cm a dros 12 mlwydd oed. Caiff 1 oedolyn oruchwylio 2 blentyn ar y mwyaf. Y pwysau trymaf a ganiateir yw 18 stôn.

Beth fydd angen i mi wneud wrth gyrraedd?

Ewch i'r ardal briffio CoedLan sydd tu ol i'r prif adeilad.

Rydym wedi strwythuro amseroedd y sesiynau ac mae niferoedd cyfyngedig fesul sesiwn. Ewch i'r ardal briffio dim mwy nag 15 munud cyn i'ch sesiwn dechrau. 

Beth sydd yn digwydd os byddaf yn colli fy sesiwn?


Os byddwch yn hwyr neu’n colli eich sesiwn am unrhyw reswm byddwn yn ceisio cynnig lle i chi ar sesiwn arall, naill ai’r diwrnod yna neu are ddiwrnod arall yn dibynnu ar argaeledd. Ni fyddwn yn cynnig unrhyw ad-daliad.

Fydd unrhyw ddarpariaeth diheintio ar gael?

Rydym yn darparu hylif diheintio dwylo ar ddechrau a diwedd y sesiwn, rydym hefyd yn eich annog i ddod â'ch diheintydd eich hun.

Oes unrhyw le i gadw eiddo personol?

Mae loceri ym mhrif adeilad yr Amgueddfa i gadw eich eiddo. Dewch â £1 gyda chi ar gyfer y locer.

Pa mor uchel uwchben y ddaear yw'r cwrs?

Mae'r cwrs 5m uwchben y ddaear.

Fydd yna rywun ar y cwrs i fy helpu?

Na, ond bydd staff profiadol ar y llawr fydd yn eich helpu ar hyd y cwrs.

Beth fydd maint y grwpiau?

Bydd dim mwy nag 20 person ar bob sesiwn. 

Faint o amser mae'r cwrs yn ei gymryd?

Mae'r profiad yn para rhwng awr i awr a hanner.

Beth yw'r amseroedd agor?

Mae CoedLan ar agor 10.30am - 4.15pm pob penwythnos, Gŵyl y Banc ac yn ystod gwyliau haf rhwng Ebrill - Medi. 

Beth sy’n digwydd mewn tywydd gwael?

Mae CoedLan yn weithgaredd bob tywydd, heblaw gwyntoedd cryfion a mellt.

Oes angen i blant gael eu goruchwylio?

Rhaid i blant rhwng 110cm a 130cm gael eu goruchwylio ar y cwrs. Caiff 1 oedolyn oruchwylio 2 blentyn ar y mwyaf. Ni ddylid gadael plentyn heb ei oruchwylio yn ardal y rhaffau uchel ar unrhyw adeg.

Alla i gymryd rhan os ydw i'n feichiog neu â chyflwr meddygol sy'n bodoli'n barod?

Allwn ni ddim eich cynghori a ddylech gymryd rhan ai peidio mewn gweithgaredd. Dylech gymryd gofal, yn enwedig os ydych wedi cael llawdriniaeth neu salwch yn ddiweddar, os oes gennych gyflwr ar y galon, y gwddf, cefn neu'r esgyrn, pwysedd gwaed uchel, ymlediad (aneurysm) neu unrhyw gyflyrau tebyg. Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch eich gallu i gymryd rhan, dylech gysylltu â'ch meddyg neu ddoctor arall.

Nid ydym yn argymell i chi gymryd rhan yn y cwrs rhaffau uchel os ydych yn feichiog. Os ydych yn cymryd rhan, byddwch yn gwneud hynny ar eich perwyl eich hun.

Oes angen llofnodi ymwrthodiad er mwyn cymryd rhan?

Oes. Mae'n rhaid i bawb sy'n cymryd rhan (neu riant/gwarcheidwad) lofnodi ymwrthodiad cyn cael mynd ar y cwrs rhaffau uchel.

Yw'r cwrs rhaffau uchel yn addas ar gyfer pobl ag anableddau?

Rydym yn awyddus i gynifer â phosibl o bobl fwynhau CoedLan. Os ydych chi eisiau gwybod os yw'r cwrs yn addas ai peidio, cysylltwch â ni o leiaf 48 awr cyn eich ymweliad, a byddwn yn gwneud ein gorau i ddiwallu eich anghenion.