Digwyddiad: Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru 2022
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Bydd Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn dychwelyd i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar 10 a 11 Medi!
Ffefryn cadarn yng nghalendr bwyd Cymru, bydd Sain Ffagan yn dod yn fyw gyda dros 80 o stondinau bwyd, diod a chrefft yn nythu ymhlith yr adeiladau hanesyddol.
Mwynhewch wledd o weithgareddau bwyd sy'n addas i deuluoedd, arddangosiadau coginio, danteithion blasus a cherddoriaeth gan rai o gynhyrchwyr gorau Cymru.