Digwyddiadau

Digwyddiad: Adeiladau a Dreigiau - Chwarae rôl Hanes Cymru

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen
13–14 a 20–21 Awst 2022, 1pm-4pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd 12-18

Ffederasiwn Amgueddfeudd ac Orielau Celf Cymru

Trwy hud a lledrith gemau bwrdd chwarae rôl, dewch i deithio nôl mewn amser a chamu i esgidiau un o gymeriadau’r gorffennol.

  • Cewch ymgolli yn hanes Cymru wrth i ni chwarae y tu fewn i adeiladau go-iawn yng nghasgliad yr amgueddfa.
  • Cydweithiwch gyda’n Meistri Gemau profiadol i greu antur chwedlonol, â’i gwreiddiau mewn digwyddiadau hanesyddol.
  • Caiff eich anturiaethau eu cyhoeddi yn ddwyieithog ar-lein a byddwch yn cael cydnabyddiaeth ar y dyluniadau terfynol.

Archebwch eich tocyn

Dewch â’ch deis, ac ymunwch â ni! Mae anturiaethau eraill Adeiladau a Dreigiau i’w gweld ar https://playframe.itch.io/dwellings-and-dragons

Cliciwch y ddolen hon o fod yn rhan o’n ymgynghoriad: (Dolen allanol, Saesneg yn unig) https://forms.gle/sPE96qEhSrXChG2y5

Gwybodaeth bwysig:

Archebu: Prynwch docyn ar gyfer pob person ifanc sy’n cymryd rhan. Does dim angen tocyn ar rieni/gwarcheidwaid. Archebwch eich tocynnau o leiaf 3 diwrnod cyn y digwyddiad.

Project Pobl Ifanc: Mae hwn yn ddigwyddiad ar gyfer pobl ifanc 12–18. Mae ein holl hwyluswyr yn hwyluswyr gweithdai ieuenctid gyda phrawf DBS, felly gall rhieni/gwarcheidwaid plant dan 16 fynd a chrwydro Sain Ffagan yn ystod y sesiwn hon.

Iaith: Bydd y sesiwn hon yn digwydd yn iaith gyntaf yr hwylusydd, sef Saesneg. Mae cyfieithu ar y pryd yn bosibl, a bydd siaradwr Cymraeg ar gael os oes unrhyw un eisiau cymorth Cymraeg. Nodwch eich dewis iaith wrth archebu tocyn.

Mae'r gweithgareddau yma yn cael eu threfnu gan Amgueddfa Cymru a Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru fel rhan o fenter Haf o Hwyl, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Digwyddiadau