Digwyddiadau

Cwrs: Cyflwyniad i Waith Lledr

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen
9–10 Mawrth 2024, 10:30am - 4pm
Pris £85 | £70 Gostyngiad
Addasrwydd 16+*
Llun: Cwrs gwaith lledr yn Sain Ffagan
Llun: Cwrs gwaith lledr yn Sain Ffagan

Cwrs diwrnod yn rhoi’r cyfle i chi droi eich llaw at waith lledr yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.


Mewn grŵp bychan dan ofal clocsiwr yr Amgueddfa, Geraint Parfitt, byddwch chi’n dysgu sut i dorri, pwytho a siapio lledr, a chreu pwrs bach hardd.

Mae hwn yn gwrs addas i ddechreuwyr ac mae’r pris yn cynnwys yr holl ddeunyddiau angenrheidiol. 

Archebu Tocyn 
 

Rhaid prynu pob tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn ymlaen llaw.

Mae croeso i chi ddod â phecyn bwyd neu ymweld â'n bwytai a chaffis ar y safle. Gallwn gynnig gostyngiad o 10% yn ein bwytai a chaffis* i ddeiliaid tocyn cwrs *(heblaw am Bopty Derwen)


Gwybodaeth Bwysig 
 

Lleoliad

Cynhelir y cwrs yma yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Defnyddiwch god post CF5 6XB ar gyfer llywio â lloeren.

Parcio

Mae pris y cwrs yn cynnwys parcio. Bydd y tîm tocynnau yn cysylltu â chi gyda manylion drwy'r e-bost a ddarparwyd wrth archebu.

Iaith

Cynhelir y cwrs drwy iaith cyntaf yr hwylusydd - sef Saesneg

Oedran

16+. (Rhaid i blant o dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn 18+ sy’n cymryd rhan)

Hygyrchedd

Mae rhai o ofodau dysgu’r Amgueddfa 5 munud ar droed o’r prif adeilad a’r maes parcio – cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu i drafod anghenion hygyrchedd.

 

Gall darllen y telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau yma.

Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi'n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon.

 

Cymerwch olwg ar rai o gyrsiau eraill gan Amgueddfa Cymru yma: Cyrsiau Creadigol yn Amgueddfa Cymru | Museum Wales

 

 

Digwyddiadau