Digwyddiadau

Cwrs: Cyflwyno Enamlo

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
6 Gorffennaf 2024, 10:30am - 3pm
Pris £80 | £65 Gostyngiad
Addasrwydd 16+*

Enamlo

Book your tickets 

 

Cyflwyniad modern a chwareus yw’r gweithdy hwn i grefft draddodiadol enamlo. 


Yr artist lleol Sophie Buckingham fydd yn eich helpu i ddysgu technegau marcio, stensil, sgraffito ac addurniadau eraill. Bydd cyfle hefyd i arbrofi â phatrwm a lliw a thanio enamel gwydrog ar gopr yn yr odyn. 

Diwrnod hamddenol, hwyliog sy’n addas i ddechreuwyr llwyr, gydag unrhyw offer a deunyddiau wedi’u darparu. 

 

Rhaid prynu pob tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn ymlaen llaw.

Mae croeso i chi ddod â phecyn bwyd neu ymweld â'n bwytai a chaffis ar y safle. Gallwn gynnig gostyngiad o 10% yn ein bwytai a chaffis* i ddeiliaid tocyn cwrs *(heblaw am Bopty Derwen)


Gwybodaeth Ychwanegol 
 

Lleoliad

Cynhelir y cwrs yma yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Defnyddiwch god post CF5 6XB ar gyfer llywio â lloeren.

 
Iaith

Cynhelir y cwrs drwy iaith cyntaf yr hwylusydd - sef Saesneg

Oedran

16+. (Rhaid i blant o dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn 18+ sy’n cymryd rhan)

Hygyrchedd

Mae rhai o ofodau dysgu’r Amgueddfa 5 munud ar droed o’r prif adeilad a’r maes parcio – cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu i drafod anghenion hygyrchedd.

 

Gall darllen y telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau yma.

 

Cymerwch olwg ar rai o gyrsiau eraill gan Amgueddfa Cymru yma: Cyrsiau Creadigol yn Amgueddfa Cymru | Museum Wales

 

 

Digwyddiadau