Digwyddiadau

Digwyddiad: Wythnos Addysg Oedolion - Sgetsio Sain Ffagan

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen
21 Hydref 2022, 2-4pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Oedolion
dysgutrwygwaith
dysgwyrgymraeg
campaingcymraeg

Dewch i ymuno â gweithdy darlunio yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion.

 

Wedi’i fwriadu ar gyfer pob lefel o brofiad, dyma gyfle i ddatblygu eich ymarfer darlunio wrth i ni archwilio adeiladau, tiroedd a chasgliadau Sain Ffagan.

 

Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol yn helpu i wella'ch lles, ac mae'n dda i’ch iechyd meddwl, felly dewch draw! Byddwn yn cwrdd yn y brif dderbynfa. Nid oes angen archebu lle.

 

Bydd deunyddiau ar gael, ond mae croeso i chi ddod â'ch deunyddiau eich hun hefyd.


Cyflwynir gan Marion Cheung a Gareth Coles o Bywydau Creadigol a Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

https://www.creative-lives.org/

 

Cymerwch olwg ar ein gweithgareddau eraill Wythnos Addysg Oedolion:

Digwyddiadau