Digwyddiadau

Arddangosfa: Lleisiau’r Wal Goch

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen
19 Tachwedd 2022 – 26 Tachwedd 2023
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Het bwced Cymru. Mae gan yr het 3 streipen - gwyrdd, coch a melyn. Mae bathodyn Cymru yng nghanol y streipen felen.
Crys bel droed Cymru wedi'i arwyddo. I'r chwith mae yna ddetholiad o docynnau a rhaglennu
Logo Tim Cymru

Y Wal Goch yw’r enw ar gefnogwyr ein timau pêl-droed cenedlaethol. Yn eu crysau coch a’u hetiau bwced, maen nhw’n llenwi’r stadiwm â’u canu, ac yn rhoi hwb a hyder i’r chwaraewyr ar y cae.

I ddathlu’r ffaith fod Cymru wedi cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd FIFA, mae’r arddangosfa hon yn rhoi sylw i rai o gymeriadau a chymunedau’r Wal Goch. Mae yma gerddoriaeth, gwleidyddiaeth, ffasiwn a hunaniaeth, a’r teimlad o berthyn sy’n cysylltu’r cyfan.

Dyma eu stori nhw – eich stori chi – brics y Wal Goch. Profiad unigryw ar gyfer ffans hen a newydd.

 

 

Digwyddiadau