Digwyddiad:Teithiau'r Ystlumod
Hoff o ystlumod? Dewch draw i Sain Ffagan gyda’r hwyr wrth i ni fynd ar drywydd rhai o’r ystlumod sy’n byw yn yr Amgueddfa.
Dyddiad Amser dechrau
31 Gorffennaf 8.45pm
3 Awst 8.45pm
7 Awst 8.30pm
10 Awst 8.30pm
14 Awst 8.15pm
17 Awst 8.15pm
21 Awst 8pm
24 Awst 8pm
- Rhaid archebu ymlaen llaw
- Archebwch docyn ar gyfer pob person fydd yn dod ar y daith
- Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas a dewch â fflachlamp
- Mae’r daith yn dechrau wrth brif fynedfa’r Amgueddfa, a bydd yn para rhyw awr a hanner
- Mae parcio am ddim
- Yn anffodus, allwn ni ddim caniatáu cŵn ar y daith, rhag ofn iddynt ddychryn yr ystlumod
- Rydyn ni’n awgrymu bod y daith yn addas i oed 8+ gan fod llawer o gerdded.
- Hygyrchedd: Mae’r digwyddiad hwn yn addas i ddefnyddwyr cadair olwyn ond bydd rhaid defnyddio llwybrau eraill mewn mannau. Cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu os hoffech chi drafod unrhyw bryderon.
- Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg).
- Cofiwch y bydd angen i chi ddangos yr e-bost gyda’ch archeb.
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd