Digwyddiad:The Conjurer of Cwrtycadno

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Cyd-gynhyrchiad gan Theatr Taking Flight / LAStheatre/ Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen
Adran y Digwyddiadau Rhyfedd yn cyflwyno
The Conjurer of Cwrtycadno

Ydych chi’n ddewr ac yn chwilfrydig? Ai rhywun tawel, di-gyffro ydych chi? Oes gyda chi brofiad o ddelio â’r Tylwyth Teg? Os felly, mae ar Adran y Digwyddiadau Rhyfedd angen eich cymorth chi.

Tra oedd hi wrthi’n ymchwilio i hanes ei chyndadau a’i chynfamau yn Llyfrgell Cenedlaethol Cymru, fe ddaeth menyw ifanc o’r enw Heledd Harries o hyd i lyfr gan  ei Hen-Hen-Hen-Hen-Dadcu. Llyfr swynion oedd e! Doedd gan Heledd ddim amcan am yr hud a oedd yn byrlymu yn ei gwaed, nac ychwaith am y twrw yr oedd hi ar fin ei godi. Erbyn hyn mae angen eich help chi arnon ni i fynd â channoedd o’r Tylwyth
Teg dryslyd adref!

Stori antur hygyrch, addas i deuluoedd, yw The Conjurer of Cwrtycadno. Cewch chi ei chlywed a’i gweld yn, ac o gwmpas yr amgueddfa. Mae’r sioe’n gyfuniad o helfa drysor a chynhyrchiad theatr, a bydd yn cynnwys disgrifiad integredig mewn BSL a disgrifiad sain byw. 


Ymunwch â ni ar gyfer y chwedl ryfeddol hon, sy’n dathlu llên gwerin Cymru, hud a’r tymhorau cyfnewidiol.
 

Gwybodaeth

5 a 6 Awst 2023, 11am, 1pm a 3pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau