Digwyddiad:Sgwrs Gyda: Lleisiau’r Wal Goch

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Archebu tocyn

Ymunwch â ni am noson arbennig mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru i ffarwelio ag arddangosfa Lleisiau’r Wal Goch ac i ddathlu diwylliant unigryw cefnogwyr pêl-droed Cymru. Dan arweiniad Ryan March o’r cylchgrawn a’r podlediad pêl-droed Alternative Wales, dyma gyfle i glywed mwy gan rai o’r unigolion a’r cymunedau sy’n rhan o’r arddangosfa 

 

Cyflwyniad gan Noel Mooney. 

Panelwyr:  

Joe Ledley - Cyn Bêl-droediwr Rhyngwladol Cymru

Jalal Goni – Amar Cymru 

Dr Penny Miles – Wal Goch y Menywod 

Ani Glass - Cerddor, cynhyrchydd ac artist

 

Yn dilyn y panel trafod, bydd bar gyda Set DJ byw gan Ani Glass a chyfle i weld arddangosfa Lleisiau'r Wal Goch. 

 

Gwybodaeth Bwysig 

Bydd cyfieithiad BSL ar gael.
Cyfieithydd BSL/Saesneg - Tony Evans & Julie Doyle   

Gostyngiad: Myfyrwyr gyda cherdyn NUS, pobl sy’n derbyn budd-daliadau. Pobl dros 60 oed 
 
cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu i drafod anghenion hygyrchedd.
 
*16+. (Rhaid i blant o dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn 18+ sy’n cymryd rhan)
 


 

Gwybodaeth

20 Hydref 2023, 6:30pm - 10:30pm
Pris £12 | £10 Gostyngiad
Addasrwydd 16+*
Llun o gynbeldroediwr proffesiynol Cymru, Joe Ledley, mae'n sefyll ar gau peldroed tra'n gwisgo cit chwarae Cymru, sef crys coch a siorts gwyn, mae'n cerdded i ffwrdd o'r camera on yn edrych yn ol dros ei ysgwydd
Mae Jalal Goni yn edrych tuag at y camera, mae'n gwisg siwt ddu gyda chrys Gwyn a thei gyda streipiau arni
Mae Dr Penny Miles yn gwenu tra'n edrych i'r ochr, mae'n gwisgo siaced las a mae ganddi wallt cyrliog tywyll
Mae Ryan March yn eistedd tu allan gydag adeilad y tu ol iddo, mae'n gwisgo siaced werdd a siwmper ddu oddi tano. Mae ganddo wallt byr tywyll a barf fer ar ei wyneb
Mae Ani Glas yn gwisgo trwsys du a chrys gwyn, mae'n eistedd ar flaen cadair gyda un goes wedi plygu o dan y gadair ar llall wedi plygu o'i blaen hi, mae un llaw ar ei chlun hi a'r llall yn cael ei ddal o'i blaen hi
Logo Iaith Arwyddion Prydain gyda dwy law yn arwyddo. Mae'r logo hwn yn dynodi y bydd dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain yn bresennol neu fod gwasanaethau Iaith Arwyddion Prydain yn cael eu cynnig.
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau