Digwyddiad:Cwiltwyr Cwm Aber yn oriel Gweithdy

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Dewch i wylio Cwiltwyr Cwm Aber a’r artist Jesse Briton (HOLM) yn rhoi cynnig ar greu fersiwn newydd o ‘seren Abertridwr’ – patrwm cwiltio sy’n unigryw i Gwm Aber.

Yn dilyn preswyliad yn y gymuned leol, mae’r digwyddiad yma’n nodi diweddglo darn comisiwn gan HOLM i ISLIFAU – Ar Ein Rhiniog a oedd yn ystyried y berthynas rhwng menywod a gwaith yng Nghwm Aber. 

 

Menter ar y cyd yw ISLIFAU – Ar Ein Rhiniog rhwng y grŵp cymuned Islifau – Celfyddydau yng Nghwm Aber, Tîm Datblygu’r Celfyddydau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ac Addo.  Cyllidir y fenter gan un o grantiau Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru, gyda chyllid dros ben a chefnogaeth mewn da gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Rhwydwaith Llesiant Integredig Gwent a Chyngor Cymuned Cwm Aber.

 

Mae’r digwyddiad yma’n rhad ac am ddim, ond bob tro y byddwch chi’n cyfrannu rhodd boed fach neu fawr, byddwch yn ein helpu i sicrhau fod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Gallwch gyfrannu drwy ymweld  Cefnogwch ni | Amgueddfa Cymru

Gwybodaeth

17 Ionawr 2024, 11am-1pm a 2pm-3pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau