Digwyddiad:Teithiau Sain Ddisgrifiad yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen
Sain Ffagan | 12/12/24 | 11:00 
Ymunwch â ni yn Sain Ffagan am fore o straeon a thraddodiadau Cymreig tymhorol sy'n gysylltiedig â'r gaeaf, y Nadolig, diwedd y flwyddyn a dyfodiad y flwyddyn newydd. 
Archwiliwch gasgliadau'r Amgueddfa gyda’n gwrthrychau trin a thrafod, wrth i ni ddysgu am draddodiadau Cymreig eiconig sy'n gysylltiedig ag adeg hon y flwyddyn. 

Bydd y daith am ddim hon i ymwelwyr dall ac ymwelwyr ag amhariad ar y golwg yn archwilio casgliadau Sain Ffagan yn yr orielau ac ar draws yr amgueddfa awyr-agored drwy sain ddisgrifiad.

D12/12/2024 11:0Ymunwch â ni yn Sain Ffagan am fore o straeon a thraddodiadau Cymreig tymhorol sy'n gysylltiedig â'r gaeaf, y Nadolig, diwedd y flwyddyn a dyfodiad y flwyddyn newyddArchwiliwch gasgliadau'r Amgueddfa gyda’n gwrthrychau trin a thrafod, wrth i ni ddysgu am draddodiadau Cymreig eiconig sy'n gysylltiedig ag adeg hon y flwyddyn.Bydd y daith am ddim hon i ymwelwyr dall ac ymwelwyr â nam ar eu golwg yn archwilio’r Felin Wlân yn Sain Ffagan drwy sain ddisgrifiad.Mae 1 tocyn yn yn rhoi'r hawl i chi ddod â chynorthwy-ydd personal.Rhowch wybod os ydych yn bwriadu dod â chynorthwy-ydd personal,neu chi tywys, neu os hoffech i'r amgueddfa ddarparu tywysydd ar eich cyfer.

Archebu tocyn

Gwybodaeth

12 Rhagfyr 2024, 11am
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Archebu lle Gorfodol
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Mwy o gynnwys

Ymweld

Oriau Agor

O ddydd Llun 4 Tachwedd tan ddydd Gwener 28 Chwefror 2025, byddwn ni ar agor rhwng 10am-4pm bob dydd.

Nadolig a'r Flwyddyn Newydd: Ar gau o 2pm ar 23 Rhagfyr. Ar gau 24 - 26 a 1 Ionawr. 

Ar gau 8 Ionawr 2025 ar gyfer hyfforddiant staff. 

Parcio

Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa bydd yn rhaid talu am barcio, £7 y diwrnod, gallwch dalu trwy ddefnyddio arian parod neu gerdyn. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tocyn tymor 12 mis am £30. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer. Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa, fe fydd y mynedfeydd o bentref Sain Ffagan a’r A4232 ar agor.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae’r bwyty a caffi ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa. 

Mynediad

> Canllaw Mynediad

Gwybodaeth Diogelwch ar gyfer Ymwelwyr

Oherwydd natur hanesyddol y safle, sylwch ar y peryglon potensial canlynol, os gwelwch yn dda:

  • Pyllau dŵr a llynnoedd
  • Perygl o faglu ar lwybrau a stepiau anwastad
  • Arwynebedd llithrig llwybrau, llethrau a mannau glaswelltog

Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau