Digwyddiad: Arddangosfa Grym dros Natur
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Ymwelwch ag Arddangosfa Grym dros Natur The Tree Council a darganfod hud coed mewn gosodiad sain a golau ymdrochol i’ch syfrdanu.
Mae Arddangosfa Grym dros Natur yn edrych ar y cysylltiadau rhwng pobl ifanc, coed a natur. Mae’n dathlu gweithredoedd a lleisiau miloedd o blant a phobl ifanc sydd wedi cymryd rhan yn ymgyrch Grym dros Natur The Tree Council, a rhaglen Hyrwyddwyr Coed Ifanc. Wedi’i lansio yn haf 2023, mae’r arddangosfa deithiol hon eisoes wedi ymweld â Hampton Court Palace, a chyflwyno gwers yn Rhif 10 Downing Street. Bellach mae’n dod i Gymru am y tro cyntaf.
- Teimlwch gysylltiad â choed yn ein Llannerch Goediog. Arbrofwch gyda Thon Planhigyn i ddatgelu’r seiniau hudol sydd tu mewn i goeden.
- Profwch osodiad ymdrochol ‘Lleisiau Natur’ i ryngweithio â seinwedd arallfydol o gerddoriaeth a natur a lleisiau pobl ifanc, wrth iddyn nhw rannu eu pryderon a’u gobeithion am ddyfodol gwyrddach. 28 a 29 Mehefin yn unig.
- Rhannwch eich neges o obaith eich hun ar ein coeden negeseuon a hau hedyn derwen i fynd adref gyda chi i’w feithrin.
- Dewch i gwrdd ag addysgwyr a llysgenhadon ysbrydoledig The Tree Council i ddysgu mwy am y camau mae miloedd o blant yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur.
26 – 29 Mehefin, 10am-5pm Gosodiad Llannerch Goediog The Tree Council - Neuadd Groeso
28 – 29 Mehefin, 10am-5pm Gosodiad Lleisiau Natur The Tree Council - Stiwdio 1