Digwyddiadau

Digwyddiad: Gweithdy Brodwaith gydag Aurora Trinity Collective

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen
2 Awst 2024 , 11.00am - 1pm
Pris Yn rhad ac am ddim ond rhaid archebu tocyn i fynychu
Addasrwydd Oedolion

Ymunwch ag artistiaid Aurora Trinity Collective ar gyfer gweithdy brodwaith sy’n addo cyfle i chi ddysgu a darganfod, a hynny wrth frodio!


Gan gydweithio ar waith celf tecstil cydweithredol hardd, byddwn ni’n creu gofod ar gyfer rhannu sgiliau a gwybodaeth a chael hwyl. Nid oes angen profiad blaenorol, mae croeso i bawb o bob gallu.

Mae Aurora Trinity Collective yn grŵp unigryw o fenywod sy’n annog rhannu gwybodaeth a sgiliau creadigol mewn gofod diogel a chroesawgar ar gyfer pobl sy’n ceisio lloches yn y wlad hon. Maen nhw’n blaenoriaethu ac ymgysylltu â chanlyniadau creadigol sy’n adlewyrchu straeon, traddodiadau a gwybodaeth bersonol ac yn dod at ei gilydd i hyrwyddo a chefnogi lles a chyfeillgarwch yn ein cymuned.


Gwybodaeth ychwanegol
  • Lleoliad: Yr Atriwm yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
  • Mae’r gweithdy yn ddigwyddiad am ddim, ond mae’n rhaid archebu tocyn.
  • Mae nifer benodol o lefydd ar gael, ac mae’r digwyddiad ar gyfer oedolion yn unig.
  • Gofynnwn i chi beidio dod â bwyd a diod i ofod y gweithdy.

Tocynnau          

Mae’r gweithdy hwn yn rhan o broject Safbwynt(iau). Project o gwestiynu drwy gelf yw Safbwynt(iau) gan Nasia Sarwar-Skuse, sy’n edrych ar yr amgueddfa fel lle gall naratif grym gael ei dyrchafu neu ei dadelfennu. Mae’n broject partneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a Ways of Working drwy gydol 2024.

Mae Safbwynt(iau) yn broject gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru sy’n ceisio creu newid sylweddol yn y ffordd mae’r sector treftadaeth a chelfyddydau gweledol yn adlewyrchu amrywiaeth ethnig a diwylliannol ein cymdeithas. Caiff y project ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, fel rhan o ymdrech ar y cyd i gyflawni amcanion diwylliant a threftadaeth Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

Digwyddiadau