Digwyddiad:O'r Pridd i'r Plât
Lleoliad: Cae Cilewent (gyferbyn â 46)
Ardal newydd sbon i'r ŵyl eleni!
Ymunwch â'r cogydd a'r arbenigwr bwyd, Nerys Howell, am gyfres o sesiynau i werthfawrogi a mwynhau cyfoeth o gynnyrch arbennig o Gymru. Bydd y rhaglen yn cynnwys arddangosiadau coginio, sesiynau blasu bwyd a diod, sgyrsiau gyda chynhyrchwyr lleol, a chyfle i ddysgu mwy am hanes a threftadaeth bwyd yng Nghymru trwy gasgliadau'r Amgueddfa a'r cynnyrch sy'n cael eu cynhyrchu yma yn Sain Ffagan.
Dydd Sadwrn 7 Medi
11am - 12pm - Lisa Fearn: Brecinio
12pm - 1.30pm - Nerys Howell: Ryseitiau o’r Ardd
1.30pm - 2pm - Ffermio yn Sain Ffagan
Dewch draw i ddysgu mwy am y rhywogaethau cynhenid o anifeiliaid sydd i’w cael yn fferm yr Amgueddfa, Llwyn-yr-eos.
2pm - 3pm - Lisa Fearn: Prydoedd iach i’r teulu
3pm - 4pm - Deian Benjamin: Gwinoedd o Gymru
4pm - 5pm - Cwrdd â’r Cynhyrchwyr
AxelJack Brewery, Tea by the Sea, Mountain Mead, Gwenynfa Penybryn a GUY Hottie
Dydd Sul 8 Medi
11am - 12pm - Nerys Howell: Ryseitiau o’r Ardd
12pm- 1pm - Bwyd a Diod yn y Vulcan
Bydd Nerys Howell yn sgwrsio gyda Dafydd Wiliam, Prif Guradur: Adeiladau Hanesyddol yn Amgueddfa Cymru. Dewch draw i glywed mwy am brosiect ailadeiladu diweddaraf yr Amgueddfa a’r hyn rydyn ni’n ei wybod am y bwyd a’r diod a fwynhawyd yno dros y blynyddoedd.
1pm - 2pm - Michelle Evans-Fecci: Ryseitiau o The Seasonal Baker
2pm - 3pm - Tyfu Ffrwythau a Llysiau Treftadaeth yn Sain Ffagan
Bydd Juliet Hodgkiss, Uwch Gadwraethydd Gerddi Amgueddfa Cymru, yn siarad â Nerys Howell am y mathau treftadaeth o gynnyrch mae Tîm Garddio’r Amgueddfa yn tyfu ac yn diogelu ar y safle – gan gynnwys tatws, ffa ac afalau.
3pm - 4pm - Michelle Evans-Fucci: Ryseitiau o The Seasonal Baker
4pm - 5pm - Bwydydd Gwarchodedig Cymru
Cefnogir gan Bwyd a Diod Cymru
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd