Digwyddiad: Argraffu i deuluoedd
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Dewch i archwilio gweithiau o gasgliad Sain Ffagan a throi eich llaw at dechnegau argraffu gwahanol yng ngofod Gweithdy.
Dysgwch am fonoprintio ac ysgrythru Styrofoam a chreu print wedi ei ysbrydoli gan yr amgueddfa i fynd adref.
Gellir archebu sesiynau am: 11am, 12.30pm, 2pm. Mae sesiynau’n para oddeutu 60 munud.
Gwybodaeth Bwysig
- Uchafswm o 25 o bobl
- Rhaid cael goruwchwyliaeth oedolyn
- Talu Beth Allwch Chi gydag isafswm cyfraniad o £3.
- Addas ar gyfer rhai 6+