Digwyddiadau

Digwyddiad: Cwis Tafarn Gwesty’r Vulcan

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
15, 29 Medi, 13, 27 Hydref, 10, 24 Tachwedd, 8 a 22 Rhagfyr 2024 , 5pm-10pm
Pris £5 y person
Addasrwydd Oedolion

Camwch yn ôl mewn amser i 1915 a dewch am noson o her ymenyddol a hwyl yng nghwis tafarn newydd sbon y Vulcan! Dyma gyfle i roi prawf ar eich gwybodaeth a mwynhau’r awyrgylch hen-ffasiwn wrth i chi a’ch ffrindiau gystadlu i ennill pecyn Rhodd Cwrw Vulcan bob un. 

Mae’n noson gwis hollol wahanol! Welwn ni chi yno!

Tocynnau

Gwybodaeth Bwysig 

  • Sylwch y bydd y Vulcan ar agor o 5pm ymlaen, i’r rhai sydd wedi archebu tocynnau i’r cwis tafarn yn unig. 
  • Bydd y cwis yn dechrau am 6pm, a bydd y bar yn galw am archebion olaf am 9:30pm.
  • Mae’r Vulcan tua 10 munud o gerdded o fynedfa’r amgueddfa.
  • Rydym yn gweithredu polisi Her 25 - efallai y bydd angen ID wrth archebu diodydd alcoholig.
  • Cynhelir y cwis yn Saesneg
Digwyddiadau