Digwyddiadau

Digwyddiad: Diwrnod i Ddysgwyr Cymraeg

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
12 Medi 2024 , 10:00am-12:00pm
Pris Am ddim
Addasrwydd Oedolion
Archebu lle Galw heibio.

Galwch draw i’n gweld ni yn Sain Ffagan am ddiwrnod arbennig i ddysgwyr Cymraeg.

Dewch i ymarfer eich Cymraeg, chwarae gemau bwrdd, darganfod yr adnoddau sydd ar gael i ddysgwyr Cymraeg yn Sain Ffagan, cwrdd â dysgwyr eraill a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd i bobl sy'n dysgu Cymraeg. Galw heibio.

Mewn partneriaeth â Dysgu Cymraeg Caerdydd a Menter Caerdydd.

Digwyddiadau