Digwyddiad:20fed Dathliad Diwali Mela⁠

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Mae eleni'n garreg filltir arbennig i ni! 20 mlynedd o ddathliadau Diwali ar y cyd â Chymdeithas Ddiwylliannol Hindŵaidd Cymru a Chanolfan India Cymru.⁠ ⁠

Diwali Mela, neu Gŵyl y Golau, yw'r dathliad blynyddol o fuddugoliaeth ysbrydol y golau’n erbyn y tywyllwch, da yn trechu’r drwg, gwybodaeth yn trechu anwybodaeth. Mae ein Diwali Mela ni yn dod â hyn yn fyw mewn dathliad llawn lliw, cerddoriaeth, blas a hapusrwydd. Mae croeso i bob cymuned ddod ynghyd a dathlu un o brif wyliau y calendr Hindŵaidd.

Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu dwy ddegawd o olau, diwylliant a chymuned yn Sain Ffagan yn ein dathliad mwyaf lliwgar eto. Dewch i fwynhau'r bwyd a'r gerddoriaeth, neu i ymgolli yn yr awyrgylch - mae rhywbeth yma i bawb.

Beth i'w ddisgwyl:

• Cerddoriaeth a dawnsio byw o draddodiadau amrywiol, yn llenwi'r Amgueddfa â rhythm, egni a hapusrwydd.   
• Yoga chwerthin yn yr Atriwm yn gyfle i bawb gymryd anadl ac ymlacio drwy ein gofidion a chymryd amser i adfer.  
• Bydd yr Amgueddfa yn cael ei haddurno ag arteffactau a thecstilau Indiaidd a chelf Rangoli.  
• Marchnad o fwyd stryd Indiaidd traddodiadol, danteithion melys a chrefftau.  
• Gweithgareddau celf a chrefft i blant, teuluoedd a phobl ifanc.  
• Stondin gwisgo Saree, yn rhoi cyfle i ddysgu sut i daenu a gwisgo'r wisg draddodiadol Indiaidd brydferth. ⁠ ⁠  
• Addurniadau corff Mehndi (henna). Cyfle i addurno'ch dwylo (dros dro) â phatrymau prydferth yn llawn canrifoedd o draddodiad.

Mynediad AM DDIM ac mae croeso i bawb!

Gweithgaredd ychwanegol i'w archebu! (llefydd cyfyngedig)

Sesiwn Yoga   
Stiwdio 1   
1:40pm & 2:20 | 40 mun  
 

Mae croeso i bawb i'w Diwali cyntaf neu eu canfed! Dewch draw i ddathlu a bod yn rhan o rywbeth arbennig iawn.

Rhowch wybod os ydych chi'n bwriadu ymuno a ni i ddathlu Diwali Mela.

Cofrestru diddordeb 

Gwybodaeth

11 Hydref 2025, 10:30am
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Archebu lle https://fy.amgueddfa.cymru/overview/46465
Llun: Dathliadau Diwali
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau