Ffilmio ar Leoliad

Naws a Hanes

Mae Sain Ffagan yn amgueddfa fyw - cartre dros 40 o adeiladau o bob cwr o Gymru, wedi'u hail-adeiladu yn defnyddio technegau traddodiadol a'u gosod mewn gerddi o'r cyfnod.

Llogwch yr adeiladau hynod, hynafol hyn ar gyfer sesiynau ffotograffiaeth neu ffilmio teledu.

Cysylltwch â ni i drefnu ymweliad.

Cymru Trwy'r Canrifoedd

Gewch chi ddim safle tebyg yng Nghymru - sy'n cynnig ystod mor eang o leoliadau cyfnod ar un safle. O dai crwn yr Oes Haearn i Institiwt y Glowyr; siopau o ddechrau'r 20ed ganrif i Eglwys Ganoloesol - ac oll o fewn cyrraedd i'r M4, ddeng munud o ganol Caerdydd.

Rydym ni'n croesawu ffilmio ar leoliad, a mae pob llogiad yn cefnogi'n gwaith wrth i ni ofalu am y darn arbennig hwn o hanes Cymru.

Ymweld

'Dyn ni'n falch o fod wedi gweithio gyda chriwiau ar raglenni nodwedd, fel Dr Who a'r Antiques Roadshow, yn ogystal â nifer helaeth o gwmnïau annibynnol ar raglenni dogfen, cyfweliadau a pherfformiadau.

I weld beth sydd gennym ni i'w gynnig:

Bwciwch ymweliad er mwyn cael golwg ar ofodau nad sy'n agored i'r cyhoedd.

Hanes Byw

Mae ein crefftwyr a'n curaduron yn arbenigwyr profiadol, sy'n llawn straeon sy'n olrhain ein hanes.

Gofynnwch i ni sut y gallwch wneud y gorau o'u profiad i ddod â naws ac arbenigedd i raglen ddogfen, neu ddarn am hanes cymdeithasol.

Cefnogwch ein gwaith

Fel corff, rydym ni'n darparu mwy o gyfleuon dysgu y tu allan i'r dosbarth nag unrhyw sefydliad arall yng Nghymru, yn ogystal â gofalu am ein casgliad cenedlaethol.

Llogwch ein lleoliad er mwyn cefnogi'n gwaith elusennol - yn darparu digwyddiadau, arddangosfeydd a chyfleon i dros hanner miliwn o ymwelwyr, bob blwyddyn.

Newyddion a'r Wasg

I weld beth sy'n digwydd yn ein hamgueddfa, neu i gysylltu â Swyddfa'r Wasg, ewch i'r

dudalen newyddion a'r cyfryngau