Lleoliad

Lleoliad

Mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru 4 milltir i'r gorllewin o ganol dinas Caerdydd, oddi ar yr A4232.

Os ydych yn defnyddio teclyn llywio â lloeren, defnyddiwch y cod post CF5 6XB.

Mewn Car

Os ydych yn cyrraedd mewn car bydd angen i chi dalu wrth gyrraedd. £6 y diwrnod. Tocyn tymor 12 mis am £30.
AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer.

Ar feic

Llwybr Elái yw'r prif lwybr beiciau i'r Amgueddfa o ganol dinas Caerdydd. Mae arwyddion ar y cymal rhwng y Tyllgoed a’r Amgueddfa, cymal heb draffig yn dilyn llwybr tawel ar hyd yr afon.

 

Gwybodaeth beicio

 

Mae digonedd o le i glymu beiciau.

Ar fws

Gwasanaeth 32 Cardiff Bus – mae’r bws yn stopio yn maes parcio’r amgueddfa

Gwasanaeth 320 First Cymru – stopio ym mhentref Sain Ffagan  

I drefnu'ch taith, ewch i Traveline Cymru neu ffoniwch 0800 464 0000.

Ar drên

Parc Waun-gron yw’r orsaf drenau agosaf, 2 filltir o Sain Ffagan. Trenau Trafnidiaeth Cymru sy’n cynnal y gwasanaeth.
Mae Parc Waungron ger y brif lwybr fysiau i Sain Ffagan. Ewch i Traveline Cymru i drefnu’ch taith.