Digwyddiad: Her Adeiladu Fawr K'Nex yr Haf
Wyt ti’n ddyfeisiwr ifanc neu’n hoffi adeiladu?
Ymuna â XLWales mewn sialens arbennig - Her K’NEX Fawr!
Beth yw’r her? Adeiladu strwythurau anhygoel gan ddefnyddio’r pecyn adeiladu K’NEX.
Wythnos 1: “Cychod Ahoi!” (Awst 15): Adeiladu cwch dy hun o unrhyw fath – o gwch cyflym i long fawreddog... gad dy ddychymyg hwylio!
Wythnos 2: “Rhyfeddodau’r Felin Wynt” (Awst 22): Alli di adeiladu melin wynt? Beth am un sy’n defnyddio pŵer y gwynt? Efallai y gall gynhyrchu egni hudol!
Wythnos 3: “Adeiladwyr Pontydd” (Awst 29): Dere i adeiladu pont K’NEX! Ai pont enfys, pont steil diwydiannol neu ddyluniad modern?
Cyflwynwyd gan XL Wales, ar gyfer plant 6 oed a hŷn.
Parcio
Nid oes gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau faes parcio penodol.
Fodd bynnag, mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos o fewn pellter cerdded i’r Amgueddfa. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfleusterau parcio yma
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Mynediad
Dyma wybodaeth am fynediad yn yr Amgueddfa gan gynnwys parcio, mynediad cadeiriau olwyn, lifftiau, cyfleusterau newid cewyn, cŵn tywys, adnoddau Braille a dolenni sain.
Canllaw Mynediad
Map safle
Lawrlwythwch map o’r safleLleoliad
Digwyddiadau Perthnasol
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd