Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Archifau Richard Burton yw cartref casgliadau archif Prifysgol Abertawe. Lleolir yr archifau yn y llyfrgell a'r ganolfan wybodaeth ar gampws Singleton Prifysgol Abertawe.
Dyma brif gryfderau'r archifau:
Archifau lleol: sy'n cynnwys archifau busnes diwydiannau metel a pheirianneg Abertawe a'r cylch a Rheilffordd y Mwmbwls, cofnodion Methodistaidd cylch Abertawe a phenrhyn Gŵyr a chofnodion plwyf Priordy Dewi Sant.
Casgliad Maes Glo De Cymru: cofnodion yr NUM (Ardal De Cymru) a'i ganghennau neu gyfrinfeydd, Sefydliadau'r Glowyr a ffotograffau a chasgliadau personol unigolion o bob rhan o Faes Glo'r De.
Casgliadau llenyddol: yn enwedig cofnodion am lenyddiaeth Gymreig yn Saesneg.
Cofnodion y Brifysgol: cofnodion y Brifysgol o adeg ei sefydlu ym 1920 ymlaen.
Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.15am–1pm a 2–4.45pm
Nos Fawrth yn ystod y tymor drwy drefniant ymlaen llaw.
(01792) 295021 archives@swansea.ac.uk www.swansea.ac.uk/cy/ggs/casgliad-archifau-ac-ymchwil/archifaurichardburton/
Prifysgol Abertawe Parc Singleton Abertawe SA2 8PP