Treftadaeth Ddiwydiannol Abertawe

Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

Mae Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yn casglu dogfennau, mapiau, ffotograffau, a recordiadau ffilm a sain sy'n gysylltiedig â phob agwedd ar hanes Gorllewin Morgannwg. Gwasanaeth ar y cyd yw hwn ar gyfer Cynghorau Dinas a Sir Abertawe a Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Gall y cyhoedd ddefnyddio holl eitemau'r Archif sydd yn y catalog cyhoeddus ac sydd wedi eu marcio fel eitemau sydd ar gael yn ystafell archwilio'r archif yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe.

Mae'r archif yn defnyddio system docynnau i ddarllenwyr, sy'n golygu bod modd i chi gyrchu archifau eraill yng Nghymru, gan gynnwys Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe.

Amserau agor

Dydd Mawrth: 9am-7pm
Dydd Mercher i Ddydd Gwener: 9am-5pm
Dydd Sadwrn: 10am-4pm (Y Ganolfan Hanes Teuluol yn unig)
Ar gau bob dydd Sul

I gysylltu

(01792) 636589
westglam.archives@swansea.gov.uk
www.abertawe.gov.uk/archifaugorllewinmorgannwg

Cyfeiriad

Y Ganolfan Ddinesig
Ffordd Ystumllwynarth
Abertawe
SA1 3SN