Treftadaeth Ddiwydiannol Abertawe

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Llyfrgell Ymchwil

Mae dros 25,000 o gyfrolau yn y llyfrgell, ynghyd ag archif sy'n cynnwys dros 40,000 o ffotograffau'n ymwneud â hanes diwydiant, morwriaeth a thrafnidiaeth yng Nghymru. Gall ymchwilwyr elwa ar arbenigedd tîm o guraduron arbenigol a holl gasgliadau Amgueddfa Cymru.

Mae gan y llyfrgell set gyflawn o Lloyds Registers o 1836 hyd heddiw (ynghyd â chyfrolau dethol o 1764 i 1832), a chyfres o gyfrolau sy'n rhestru'r llongddrylliadau oddi ar arfordir Ynysoedd Prydain.

Mae gan y llyfrgell nifer dda o restri cyhoeddedig o fwyngloddiau a chwareli gweithredol o'r 1850au hyd heddiw. Mae'n cadw cyfresi o gyfnodolion pwysig hefyd gan gynnwys Adroddiadau Blynyddol Arolygwyr Mwyngloddiau E.M., sy'n rhestru'r holl ddamweiniau marwol a ddigwyddodd rhwng 1850 a 1914. Yn ogystal, rydyn ni wedi tanysgrifio i dros ddeugain o gyfnodolion cyfoes ar hyn o bryd.

Mae'r llyfrgell gyfeirio ar agor i'r cyhoedd trwy apwyntiad yn unig. Fel llyfrgell gyfeirio, nid yw'n benthyg llyfrau i unigolion, ond gellir trefnu benthyg llyfrau i lyfrgelloedd eraill trwy'r gwasanaeth benthyg rhwng llyfrgelloedd.

Amserau agor

Dydd Llun i ddydd Gwener: 10.30am–1pm a 2pm–4.30pm.
Ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc.

I gysylltu

(029) 2057 3600
glannau@amgueddfacymru.ac.uk
www.amgueddfacymru.ac.uk/abertawe/

Cyfeiriad

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Ffordd Ystumllwynarth
Abertawe
SA1 3RD