Gwnaed yng Nghymru
Mae Cymru wedi newid llawer ers y 1930au. O fod yn enwog am ddiwydiant trwm a gwaith corfforol caled, rydym bellach yn wlad o fasnach uwch-dechnoleg, ymchwil a thwristiaeth. Mae’r byd wedi newid; felly hefyd Gymru.
Mae Gwnaed yng Nghymru yn edrych ar rai o’r newidiadau hyn gan arddangos rhai gwrthrychau ac arteffactau o’r cyfnod rhwng 1930 a heddiw.
Bydd nifer o’r gwrthrychau yn gyfarwydd i ymwelwyr. Mae enwau mawr megis Hoover, Smith’s Clock’s, Corgi Toys a Spectrum Computers yn brawf o’r diwydiant cynhyrchu eang ac amrywiol fu’n rhan o’n hanes diweddar.
Dewch ar daith drwy amser, a chael eich rhyfeddu gan y nwyddau oedd – ac sydd – yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru.