Dathliad o 15 Gwrthrych ar Gyfer 15 Mlynedd 2005-2020

Mis Hydref hwn, mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn dathlu ei phen-blwydd yn bymtheg oed.

Sefydlwyd yr amgueddfa trwy bartneriaeth arloesol rhwng Amgueddfa Cymru - a Dinas a Sir Abertawe. Cynorthwyir hefyd gan grantiau hael o Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Cronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop a sefydliadau eraill.

Mae'r adeilad yn cynnwys warws hanesyddol ochr y doc o tua 1900 ac oriel a neuadd fynediad pwrpasol, a ddyluniwyd gan y penseiri arobryn, Wilkinson Eyre.

Agorwyd y drysau ar 17 Hydref 2005 ac erbyn ei phen-blwydd yn bymtheg oed bydd yr amgueddfa wedi derbyn dros ddwy filiwn a hanner o ymweliadau.

Fel rhan o'n dathliadau rydym wedi llunio arddangosfa fach o bymtheg o bethau sydd wedi'u rhoi i gasgliadau diwydiant Amgueddfa Cymru. Mae'r amgueddfa'n gallu arddangos y gwrthrychau hyn a'u cadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol oherwydd haelioni pobl Cymru. Heb eich cefnogaeth chi ni allem adrodd stori gyffrous diwydiant ac arloesedd Cymru.

Hoffem ddweud diolch yn fawr i'n holl ymwelwyr a chefnogwyr eraill am ein helpu i ffynnu dros y pymtheng mlynedd diwethaf.

Casyn oriawr Milfraen

Roedd Pwll Glo Milfraen yn chwaer bwll i Big Pit; wedi'i leoli tua milltir i ffwrdd ac yn edrych bron yn union yr un fath. Cwmni Blaenavon Iron and Steel Company oedd yn berchen ar y ddwy lofa. Ar 10 Gorffennaf 1929, arweiniodd ffrwydrad danddaear at farwolaeth naw dyn. Canfuwyd yn ddiweddarach taw'r achos oedd awyru gwael yn arwain at gronni lleithder neu ‘losgnwy’ (cymysgedd o nwyon, methan yn bennaf) a gafodd ei gynnau gan sbarc trydanol o beiriant torri glo diffygiol. Perchennog y casyn oriawr hwn oedd David John Parry, glöwr 37 oed a laddwyd yn y drychineb a dim ond oherwydd ei fod yn cario’r casyn hwn (a alwyd yn ‘turnip’) y llwyddwyd i adnabod ei gorff.

Gweld mwy

Ffotograff o'r Brenin George V a'r Frenhines Mary yn agor gwaith tunplat Doc y Brenin, Abertawe 1920

Mae'r parti brenhinol a’r pwysigion dinesig yn troedio’n ofalus dros y traciau rheilffordd ar ôl dod i mewn i'r gwaith rhwng pâr o obelisgau dros dro wedi'u gwneud o ddalenni o dunplat ac yn cynnal bwa o wyrddni. ͏͏͏Prin oedd yr ymweliadau brenhinol â diwydiannau cyn yr Ail Ryfel Byd. Ymweliad atodol oedd hwn ar ôl gosod carreg sylfaen Prifysgol Abertawe.

Gweld mwy

Cytundeb prentisiaeth i John Francis Mahoney, 15 oed, o Abertawe fel atgyweiriwr a pheiriannydd llongau gyda chwmni Palmers (Swansea) Dry Dock Company Limited

Cytundeb cyfreithiol oedd hwn yn nodi'r grefft oedd i'w dysgu dros nifer o flynyddoedd, y taliad premiwm a dalwyd gan dad y bachgen i'r cyflogwr, a’r cyflog i'w dalu i'r prentis. Am gannoedd o flynyddoedd ystyriwyd bod cytundeb prentisiaeth yn basbort i grefft fedrus fyddai’n cynnig sicrwydd cyflogaeth. Byddai rhai bechgyn yn mwynhau 'gwasanaethu', rhai yn ei gasáu ac eraill yn ei oddef.

Gweld mwy

Plât

Plât wedi ei chreu gan ddefnyddio saith math gwahanol o lechen o Ogledd Cymru a’r Unol Daleithiau (daw’r llechi o Gymru o Penrhyn, Llechwedd, Corris, Ffestiniog, a Dyffryn Nantlle; a defnyddiwyd llechi ‘Coch’ Americanaidd a ‘Gwyrdd’ Americanaidd o’r Unol Daleithiau). Mae’r plât yn un o bâr a wnaethpwyd gan y diweddar Mr William J. (Bill) Rice ar gyfer achlysur gefeillio Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis gydag Amgueddfa’r Slate Valley, Granville, Mai 2007.

Gweld mwy

Jig-so Rheilffordd y Great Western o Ddociau Abertawe, tua 1927

Rhwng 1924 a 1939 gwerthwyd 46 jig-so gwahanol gan y GWR yn dangos eu rheilffyrdd a chyrchfannau twristiaid a wasanaethwyd gan eu rheilffyrdd a'u llongau stêm. Yn eu plith roedd jig-so golygfa hynod ddiwydiannol o Ddociau Abertawe, sydd – heb fawr o syndod – yn ymddangos fel pe bai wedi bod ymhlith y rhai llai poblogaidd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, atgynhyrchwyd fersiynau modern ohonynt.

Gweld mwy

Peli golff dychanol

Cynhyrchwyd y rhain yn ystod Streic y Glowyr 1984-85 ac roeddent yn cynrychioli pedwar o'r prif ffigurau gwleidyddol ar y pryd. Y cyntaf yw'r prif weinidog, Margaret Thatcher, a arweiniodd y llywodraeth Geidwadol a oedd yn benderfynol o dorri grym yr undebau llafur, a'r un mwyaf pwerus ohonynt i gyd oedd Undeb Cenedlaethol y Glowyr (NUM). Mae wedi gwisgo yn ei siwt las nodweddiadol ac yn gwisgo rhosglwm y Torïaid. Yr ail yw ei gwrthwynebydd pennaf, Arthur Scargill, llywydd Undeb Cenedlaethol y Glowyr, wedi'i wisgo fel glöwr ac yn cario caib a lamp ddiogelwch eiconig y glowyr. Yn drydydd mae Neil Kinnock, arweinydd y Blaid Lafur, sy'n chwifio’r faner goch sosialaidd ac sy'n cario meicroffon. Mae'r cartŵn olaf yn dangos Norman Tebbit, Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant y Ceidwadwyr. Mae Tebbit wedi'i wisgo fel ‘skinhead’ mewn lledr gyda chi tarw Prydeinig wrth ei ochr. Mae'r cartwnau hyn yn seiliedig ar y cymeriadau a bortreadwyd yn y sioe deledu ddychanol 'Spitting Image' a ddarlledwyd gyntaf ym mis Chwefror 1984 ac a barodd am dros ddeng mlynedd.

Gweld mwy

Llyfryn dathlu cwmni’r Liverpool and North Wales Steamship Company Limited, tua 1955

Sefydlwyd y cwmni ym 1890, ac roedd yn rhedeg gwasanaeth llongau stêm i deithwyr rhwng Lerpwl, Caergybi, Llandudno, Pier Afon Menai a Phier Bangor, nes i’r galw leihau gan arwain at ddirwyn y cwmni i ben ym 1962. Ddechrau a chanol yr 20fed ganrif roedd y llongau pleser yn elfen boblogaidd iawn o brofiadau twristiaid o gyrchfannau arfordirol y Gogledd. Yn 2016, ailddechreuwyd y teithiau hyn gan gwmni newydd o’r un enw.

Gweld mwy

‘Carn Senghenydd’

Carn ceffyl arian a gyflwynwyd i Reginald Mortimer, o Lofa’r Standard, Ynyshir, Rhondda, am ei waith gyda cheffylau a anafwyd yn dilyn y ffrwydrad yng Nglofa’r Universal, Senghennydd. Achosodd y drychineb hon yn hanes diwydiant glo Prydain, farwolaethau 439 o ddynion a bechgyn. Mae'r plac yn dweud taw 'Kildare' oedd y ceffyl cyntaf i’w ddwyn i’r wyneb yn dilyn y ffrwydrad, ond ni nodir a oedd yn fyw neu'n farw. Prin yw’r manylion a gofnodwyd am ffawd ceffylau’r Lofa yn dilyn y drychineb.

Gweld mwy

Wendy Boston Bears

Wendy Boston Bears oedd syniad Ken Williams a'i wraig Wendy (Boston oedd ei henw cyn priodi). Pan gafodd cartref y cwpl yng nghanolbarth Lloegr ei fomio, penderfynodd y ddau ddechrau o’r newydd a symud i Grucywel. Roedd hi’n gyfnod anodd yn ariannol felly dechreuodd Wendy wneud teganau meddal i ennill rhywfaint o arian ychwanegol. Aeth Ken â bocs i Gaerdydd ac fe werthodd y cwbl mewn dim am £100 – ffortiwn y dyddiau hynny! Cyn bo hir, ffurfiwyd cwmni Wendy Boston (Crickhowell) Ltd. Ar ei anterth, roedd yn cyflogi dros 250 o weithwyr (menywod yn bennaf). Nhw ddatblygodd y tedi golchadwy cyntaf o neilon, ac roedden nhw’n cynhyrchu llygaid teganau oedd yn ddiogel i blant. Roedd doniau Wendy yn golygu taw hi oedd yn gwneud pypedau arbennig i'r BBC gan gynnwys 'Basil Brush' a Pinky & Perky'.

Gweld mwy

Arwydd tollau o dolldy M48 Pont Hafren / M4 Ail Groesfan Hafren

Ers agor y bont gyntaf ym 1966, nes i'r tollau ddod i ben ym mis Rhagfyr 2018, dim ond tua'r gorllewin y codwyd y tollau, gan greu’r canfyddiad poblogaidd ac emosiynol fod yn rhaid talu i ddod i mewn i Gymru, er ei bod am ddim i fynd i Loegr, a bod hynny’n beth annheg. Am 52 mlynedd, roedd stopio i dalu’r doll yn symbol o gyrraedd Cymru wrth deithio ar hyd yr M4.

Gweld mwy

Andrew Vicari yn paentio 'Baglan Bay at Night'

Yn 2010 roedd cwmni BP ym Mae Baglan yn cau eu safle ac fe gynigiodd y cwmni i'r Amgueddfa ddarlun olew mawr oedd wedi bod ar wal y brif swyddfa ers y 1960au. Roedd yn olygfa ysblennydd o'r gwaith liw nos. Ar ôl ei archwilio, gwelsom lofnod Andrew Vicari, un o arlunwyr enwocaf Cymru, ac ar un adeg tybiwyd taw ef oedd yr artist byw cyfoethocaf yn y byd. Fe wnaethon ni lwyddo i gael gafael yn yr artist yn ei gartref yn Monaco gan anfon ffotograff iddo i wirio'r gwaith. Ychydig ddyddiau'n ddiweddarach canodd y ffôn ac fe ddywedodd rhywun mewn llais dwfn: 'Rwy'n gweld eich bod wedi dod o hyd i'r Vicari coll! Peintiais i hwn ddechrau’r chwedegau ac roeddwn i’n falch iawn o'r comisiwn.'

Gweld mwy

Cerflun “y ddraig Goron” / “the Crown dragon” gan yr artist a’r gof o Gymru, David Petersen, 2011

Comisiynwyd y cerflun gan gwmni Crown Packaging yng Nghastell-nedd (cwmni Metal Box gynt) ac mae wedi’i wneud o gydrannau a gynhyrchwyd yn y gwaith – mae cen y ddraig yn dod o ganiau diodydd. Mae David Petersen yn adnabyddus am ei gerfluniau metel o ddreigiau, a'r enwocaf ohonynt yw Cofeb Coedwig Mametz yn Ffrainc yn coffáu milwyr o Gymru a laddwyd ym Mrwydr Gyntaf y Somme ym 1916.

Gweld mwy

William Walker gyda'i gwch camlas a’i geffyl ar Gamlas Abertawe, ger Pantffynnon mae'n debyg, tua 1914

Mae'r cwch wedi'i lwytho gyda thros 20 tunnell o byst pwll ac mae newydd adael loc i fynd i lawr y gamlas tuag at Bontardawe. Roedd William Walker yn berchen ar ei gwch ei hun, fel ei feibion hefyd, a byddai’n mynd â'i geffyl adref bob nos i'w stabl ar Richardson Street Trebannws ar ôl gwaith. Ychydig iawn o ffotograffau sydd ar glawr o ddynion y cychod, a’r cychod a’r ceffylau ar Gamlas Abertawe.

Gweld mwy

Baner LGSM wedi’i hatgynhyrchu

Yn 2014 cynhyrchwyd drama gomedi hanesyddol i goffáu'r cysylltiadau rhwng Grŵp Cymorth Glowyr Cwm Dulais yn Neuadd Les Onllwyn a sefydliad Dynion Hoyw a Lesbiaid yn cefnogi’r Glowyr (LGSM) oedd wedi’i leoli yn siop lyfrau 'Gays the Word' yn Llundain. Roedd y 1980au yn gyfnod o homoffobia a chasineb at yr undebau llafur, a chanfu'r ddwy ochr achos cyffredin yn ystod streic y glowyr. Cynhyrchwyd y copi cywir hwn o faner wreiddiol yr LGSM gan Anna Thomas, aelod o Gymru o dîm dylunio Pathe Films.

Gweld mwy

Medal Goffa Bechgyn Bevin

Medal a gynhyrchwyd gan Gymdeithas Bechgyn Bevin ar gyfer y rhai nad oeddent yn gymwys ar gyfer bathodyn swyddogol.

Bechgyn Bevin oedd y dynion ifanc a gonsgriptiwyd i weithio yn y pyllau glo rhwng Rhagfyr 1943 a Mawrth 1948 er mwyn cynhyrchu mwy o lo ar gyfer yr ymdrech rhyfel. Fe'u henwyd ar ôl Ernest Bevin y Gweinidog Llafur a Gwasanaeth Cenedlaethol ar y pryd a ddyfeisiodd y cynllun. Achosodd y cynllun lawer iawn o ofid gan fod llawer o ddynion ifanc am ymuno â'r lluoedd arfog yn hytrach na gweithio danddaear. Cawsant gam yn aml gan y cyhoedd a oedd yn eu gweld fel pobl oedd yn osgoi ymuno â’r fyddin. Yn dilyn ceisiadau gan Gymdeithas Bechgyn Bevin am ryw fath o fedal i goffáu eu gwasanaeth rhyfel, dywedodd y prif weinidog yn 2007, Tony Blair, wrthynt y byddai bathodyn arbennig yn cael ei gyflwyno i'r cyn-lowyr. Dosbarthwyd y bathodyn hwn yn 2008 ond dim ond i’r Bechgyn Bevin oedd yn dal yn fyw. Er mwyn coffáu'r rhai a fu farw cyn 2007, comisiynodd Cymdeithas Bechgyn Bevin fedal y gallai eu perthnasau ei phrynu.

Gweld mwy/a>