Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth y byddwch yn ei darparu yn ystod y broses oni nodir fel arall. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y broses neu am sut rydym yn trin eich gwybodaeth, ad@amgueddfacymru.ac.uk.
Dim ond er mwyn symud eich cais yn ei flaen y bydd yr holl wybodaeth y byddwch yn ei darparu yn ystod y broses yn cael ei defnyddio, neu i gyflawni gofynion cyfreithiol neu reoleiddiol os oes angen hynny.
Fyddwn ni ddim yn rhannu unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei darparu yn ystod y broses recriwtio gydag unrhyw drydydd partïon at ddibenion marchnata nac yn storio'ch gwybodaeth y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Caiff yr wybodaeth y byddwch yn ei darparu ei chadw’n ddiogel gennyn ni a/neu ein prosesyddion data p’un a yw'r wybodaeth mewn fformat electronig neu ffisegol.
Byddwn yn defnyddio'r manylion cyswllt y byddwch yn eu darparu i symud eich cais yn ei flaen. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth arall y byddwch yn ei darparu i asesu’ch addasrwydd ar gyfer y swydd rydych wedi gwneud cais amdani.
Dydyn ni ddim yn casglu mwy o wybodaeth nag sydd ei hangen i gyflawni’n dibenion a fyddwn ni ddim yn ei chadw am gyfnod hirach nag sy'n angenrheidiol.
Mae’r wybodaeth rydyn ni’n gofyn amdani yn cael ei defnyddio i asesu’ch addasrwydd i gael eich cyflogi. Does dim rhaid i chi ddarparu’r hyn y byddwn ni’n gofyn amdano ond os na fyddwch chi’n gwneud hynny, gall effeithio ar eich cais.
Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio trydydd parti i helpu gyda'r broses recriwtio. Mewn achosion o'r fath byddan nhw’n gweithredu fel Prosesydd Data ar ran Amgueddfa Cymru.
Rydym yn gofyn i chi am eich manylion personol, gan gynnwys eich enw a’ch manylion cyswllt. Byddwn yn gofyn i chi hefyd am eich profiad blaenorol, eich addysg, eich cymwysterau, eich sgiliau a’ch canolwyr ac yn gofyn am atebion i gwestiynau sy'n berthnasol i’r rôl rydych wedi gwneud cais amdani. Bydd ein tîm recriwtio yn cael gweld yr holl wybodaeth hon.
Gofynnir hefyd i chi ddarparu gwybodaeth cyfle cyfartal. Ni fydd yr wybodaeth hon ar gael i unrhyw staff y tu allan i'n tîm recriwtio, gan gynnwys y rheolwyr sydd wrthi’n cyflogi, mewn ffordd lle bydd modd eich adnabod. Dim ond i gynhyrchu a monitro ystadegau cyfle cyfartal y defnyddir unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei darparu.
Gallem ofyn i chi gymryd rhan mewn diwrnodau asesu; cwblhau profion neu holiaduron proffil personoliaeth galwedigaethol; a/neu ddod i gyfweliad - neu gyfuniad o'r rhain. Bydd gwybodaeth yn cael ei chynhyrchu gennych chi a gennym ni. Er enghraifft, gallech chi gwblhau prawf ysgrifenedig neu gallem ni gymryd nodiadau mewn cyfweliad. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chadw gan Amgueddfa Cymru.
Mae penderfyniadau recriwtio yn cael eu gwneud gan y rheolwyr sy’n recriwtio ac aelodau o'r tîm recriwtio. Mae’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu yn ystod y broses ymgeisio yn cael ei hystyried.
Os byddwn yn gwneud cynnig cyflogaeth amodol, gofynnwn i chi roi gwybodaeth er mwyn i ni allu cyflawni gwiriadau cyn eich cyflogi. Mae’n rhaid i chi gwblhau gwiriadau cyn cyflogi yn llwyddiannus er mwyn derbyn cynnig terfynol. Mae'n ofynnol i ni gadarnhau pwy yw ein staff, cadarnhau eu hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig a gofyn am sicrwydd ynghylch eu didwylledd, eu huniondeb a’u dibynadwyedd
Gan hynny, bydd yn ofynnol i chi ddarparu:
Os byddwn yn gwneud cynnig terfynol, byddwn hefyd yn gofyn i chi roi’r canlynol:
Mae prosesyddion data yn drydydd parti sy'n darparu elfennau o’n gwasanaeth recriwtio ar ein rhan. Mae gennym gontractau gyda’n prosesyddion data. Mae hyn yn golygu nad ydynt yn cael gwneud dim â’ch gwybodaeth bersonol oni bai ein bod wedi eu cyfarwyddo i wneud hynny. Fyddan nhw ddim yn rhannu’ch gwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni. Byddant yn ei chadw’n ddiogel a hynny am gyfnod a bennir gennym.
Caiff manylion eich cais eu cadw ar ein system recriwtio.
Os byddwch yn derbyn cynnig terfynol gennym, caiff rhai o'ch cofnodion personél eu cadw ar CIPHR, sef system cofnodion adnoddau dynol sy’n cael ei defnyddio’n fewnol.
Dyma ddolen i’w Hysbysiad Preifatrwydd (Saesneg yn unig): http://www.ciphr.com/privacy-notice/
InSync sy’n darparu gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol ar ein rhan. Os byddwn yn rhoi cynnig amodol i chi, gofynnwn i chi lenwi holiadur a fydd yn helpu i bennu a ydych yn addas i ymgymryd â’r gwaith sydd wedi’i gynnig i chi, neu i roi gwybod i ni a oes angen unrhyw addasiadau i'r amgylchedd neu’r systemau gwaith er mwyn i chi weithio’n effeithiol.
Bydd yr wybodaeth y byddwch yn ei darparu yn cael ei chadw gan InSync a fydd yn rhoi datganiad addasrwydd i weithio i ni ynghyd ag unrhyw argymhellion. Gallwch ofyn am weld yr adroddiad cyn iddo gael ei anfon atom. Os byddwch chi'n gwrthod i ni ei weld, gallai hynny effeithio ar eich cynnig swydd. Os bydd angen asesiad iechyd galwedigaethol, mae hwnnw’n debygol o gael ei wneud gan InSync.
Rydym yn defnyddio gwasanaethau trydydd parti, fel Disclosure Checks Ltd, Ucheck neu Disclosure Scotland i brosesu’ch cais am Wiriad Cofnod Troseddol Sylfaenol neu Fanwl a fydd yn gwirio’ch datganiad ynglŷn ag euogfarnau sydd heb ddarfod.
Dyma ddolenni i’w Hysbysiadau Preifatrwydd (Saesneg yn unig)
Yn achos rhai swyddi gwag, rydym yn hysbysebu drwy asiantaethau recriwtio. Maen nhw’n casglu gwybodaeth ymgeisio ar ein rhan, a chaiff y canlyniadau eu hasesu gan ein swyddogion recriwtio ni.
Gweler hysbysiadau preifatrwydd yr asiantaeth y defnyddiwyd gennych i ymgeisio.
Os byddwch yn llwyddiannus, bydd yr wybodaeth y byddwch yn ei darparu yn ystod y broses ymgeisio yn cael ei chadw fel rhan o’ch cofnod cyflogai. Mae’r cofnod yn cynnwys eich datganiad cofnodion troseddol, eich datganiad ffit i weithio, cofnodion o unrhyw archwiliadau diogelwch a geirdaon. Gweler ein Hamserlen Cadw Gwybodaeth am ddadansoddiad manwl o'r cyfnodau cadw data.
Os byddwch yn aflwyddiannus ar unrhyw gam yn y broses, bydd yr wybodaeth yr ydych wedi’i darparu hyd at yr adeg honno yn cael ei chadw am 6 mis ar ôl i’r ymgyrch ddod i ben.
Byddwn yn cadw’r wybodaeth sy’n cael ei chynhyrchu drwy gydol y broses asesu, er enghraifft nodiadau cyfweliad, am 6 mis ar ôl i’r ymgyrch ddod i ben.
Bydd yr wybodaeth cyfle cyfartal yn cael ei chadw am 6 mis ar ôl i’r ymgyrch ddod i ben os byddwch yn aflwyddiannus.
O dan y ddeddfwriaeth gyfredol mae gennych chi fel unigolyn hawliau ynghylch yr wybodaeth amdanoch sydd gennym ar glawr.
Gallwch ddarllen mwy am yr hawliau hyn yma (Saesneg yn unig): https://ico.org.uk/for-the-public/is-my-information-being-handled-correctly.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich data neu sut rydym yn ei ddefnyddio cysylltwch â'n Swyddog Diogelu Data, Mr Neil Wicks, Amgueddfa Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NP neu swyddogdiogeludata@amgueddfacymru.ac.uk.
Mae ein polisi llawn ar gael fan hyn .