Strategaeth Eiriolaeth Ail-ddweud Stori’r Cymoedd 2021 - 2024 Crynodeb Gweithredol

Lawrlwythwch y tudalen hyn fel PDF.

Mae’r ddogfen hon yn nodi Strategaeth Eiriolaeth Project Ail-ddweud Stori’r Cymoedd yn Amgueddfa Cymru mewn partneriaeth ag Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa ac Ymddiriedolaeth Amgueddfa Cwm Cynon. Nod y Strategaeth Eiriolaeth yw sicrhau bod Negeseuon Allweddol partneriaeth yr amgueddfa yn cael eu clywed ledled ein cymuned a chymunedau ehangach yng nghymoedd y de.

Ein Negeseuon Allweddol cyffredin rhwng yr holl amgueddfeydd yw:

  1. Mae’r amgueddfeydd hyn yn grymuso pobl drwy addysg ac ysbrydoliaeth
  2. Mae casgliadau yn ein hamgueddfeydd yn helpu cymunedau i adfywio a ffurfio eu hunaniaeth

Drwy’r strategaeth hon ar gyfer Amgueddfa Cymru, bydd Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa ac Ymddiriedolaeth Amgueddfa Cwm Cynon yn cydweithio i ddwyn perswâd ar benderfynwyr a rhanddeiliaid allweddol ynghylch pwysigrwydd a gwerth gwasanaeth yr amgueddfeydd i gymunedau Cymru.

Beth yw Eiriolaeth?

Fel arfer cynhelir eiriolaeth gan unigolyn, grŵp neu sefydliad er mwyn hyrwyddo un ai eu hunain, eu syniadau neu brojectau unigol. Er bod sawl gwahanol ddiffiniad o eiriolaeth, yr un sy’n gweddu i Amgueddfa Cymru orau yw’r un a ddatblygwyd gan Gymdeithas yr Amgueddfeydd, sy’n diffinio eiriolaeth fel a ganlyn:

“Eiriolaeth yw’r broses lle mae sefydliad yn ceisio dylanwadu ar eraill er mwyn ennill cefnogaeth i’w genhadaeth, buddiannau neu ddull gweithredu. Er mwyn cyflawni hyn, datblygir rhwydweithiau cymorth ac fe’i defnyddir i roi hygrededd, i gael dylanwad ac i gynnig cefnogaeth trydydd parti.” (Cymdeithas yr Amgueddfeydd)

Cyd-destun y Project

Cynhelir Project Ail-ddweud Stori’r Cymoedd yn Amgueddfa Cymru, gan weithio mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cwm Cynon, Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa a’r cyffiniau. Pedwar nod y project yw:

  1. Nodi casgliadau celf gweledol Amgueddfa Cymru ac Amgueddfeydd partner sydd wedi’u llywio neu eu hysbrydoli gan gymoedd y de.
  2. Gweithio gyda chyfranogwyr yn yr ardaloedd hynny i ganfod straeon a meysydd gwybodaeth newydd sy’n gysylltiedig â’r casgliadau hynny.
  3. Datblygu ffyrdd newydd o ddefnyddio’r casgliadau hyn yn Amgueddfa Cymru a’r Amgueddfeydd partner, ac mewn lleoliadau eraill fel ysgolion lleol a lleoliadau cymunedol, gan eu gwneud nhw’n fwy hygyrch i ystod ehangach o bobl.
  4. Gwneud y wybodaeth newydd hon yn fwy hysbys yn ei hardal leol a’r tu hwnt.

Negeseuon Allweddol

Mae’r strategaeth hon yn cydnabod bod Amgueddfa Cymru a’i phartneriaid yn ymwneud â llawer o wahanol ardaloedd. Rydyn ni’n credu mai’r Negeseuon Allweddol y mae angen eu cyfleu yw:

  1. Mae’r amgueddfeydd hyn yn grymuso pobl drwy addysg ac ysbrydoliaeth.
  2. Mae casgliadau yn ein hamgueddfeydd yn helpu cymunedau i adfywio a ffurfio eu hunaniaeth.

Yn sail i’r Negeseuon Allweddol hyn mae cyfres o ddatganiadau am yr hyn mae amgueddfeydd yn ei wneud. Bydd y strategaeth hon yn sicrhau bod y rhain yn cael eu cyfleu fel rhan o waith hyrwyddo’r Negeseuon Allweddol.

  1. Mae amgueddfeydd yn casglu ac yn cadw treftadaeth y gymuned.
  2. Mae amgueddfeydd yn gwneud cyfraniad pwysig i hunaniaeth leol, ymdeimlad o le a pherthyn.

Cynulleidfaoedd Targed

Cynulleidfaoedd Targed Ffyrdd o gyflawni dwy neges allweddol Amgueddfa Cymru a’i phartneriaid
1. Ymwelwyr yr Amgueddfeydd Gwefannau
Cyfryngau Cymdeithasol
Straeon yn y wasg
Gwybodaeth o’r adroddiad blynyddol a chyfres Stori Arbennig
2. Cefnogwyr lleol (Cyfeillion, Grwpiau Hanes Lleol) Darlithoedd
Cymryd rhan mewn llywodraethu
Nawdd
Ysgrifennu llythyrau
Cymryd rhan mewn Rhwydweithio Cymdeithasol
3. Cyllidwyr Nawdd
Diolchiadau
Un i un
Ceisiadau
Gwahoddiad i ddatblygu projectau
4. Y Cyfryngau Datganiadau i'r wasg
Lluniau
Dyfyniadau a sylwadau
Straeon newyddion da
Gwybodaeth o’r adroddiad blynyddol
Cyfres Stori Arbennig

Camau Gweithredu

Bydd Amgueddfa Cymru a’i phartneriaid yn gwneud y canlynol:

  • Rhannu’r Negeseuon Allweddol ar ein gwefannau.
  • Rhannu ystadegau cadarnhaol yr amgueddfeydd ar ein gwefannau.
  • Adeiladu adnodd o newyddion da/digwyddiadau/llwyddiannau.

Gwerthuso a Monitro

Bydd Amgueddfa Cymru a’i phartneriaid yn nodi canlyniadau allweddol i’w defnyddio wrth fonitro a gwerthuso llwyddiant y strategaeth. Gallai hyn gynnwys:

  • Presenoldeb penderfynwyr mewn digwyddiadau.
  • Diddordeb gan benderfynwyr.
  • Tystiolaeth bod gwerth Amgueddfa Cymru a’i phartneriaid wedi’i gydnabod mewn strategaethau perthnasol, polisïau sefydliadau llywodraethu neu gyllidwyr.