Adeiladau Hanesyddol
O gwmpas safle Big Pit gallwch weld gwahanol adeiladau a pheirianwaith rhyngweithiol oedd yn allweddol i'r gwaith glo.
Mae'r tŷ injan weindio, neu'r weindar fel y'i gelwir, yn codi ac yn gostwng y caetsys sy'n cario glo, dynion a defnyddiau lan a lawr y siafft.
Er ei fod dros 50 oed, mae wedi'i foderneiddio'n llwyr gyda systemau diogelwch a chyfrifiaduron yn rheoli ac yn monitro ei waith.
Mae'r adeiladau o gwmpas iard yr efail ymhlith yr adeiladau hynaf ar y safle ac yn dyddio o'r 1870au. Ar y chwith, mae'r gweithdy weldio a ffitio sy'n dal i gael ei ddefnyddio gan of Big Pit heddiw. Mewn pwll glo gweithredol, roedd y gofaint yn gwneud ac yn trwsio popeth - pedolau, dramiau, cyffyrdd rheilffordd, pibellau, sbaneri a morthwylion.
Yn yr iard stoc y cedwid pren a deunyddiau eraill oedd yn angenrheidiol i weithio yn y pwll. Yma y dadlwythid pren oedd yn cyrraedd ar y trên, yn barod i'w ddefnyddio dan ddaear. Roedd gofyn torri'r coed mwyaf i'r maint cywir yn y felin lif. Mae'n dal i gael ei defnyddio at yr un pwrpas heddiw.
Mae'r felin fortar, lle câi’r mortar ei gymysgu ar gyfer gwaith adeiladu dan ddaear ac ar y wyneb, yn yr un adeilad.
Byddai’r tŷ ffrwydron neu’r tŷ powdwr ym mhob pwll yn cael ei godi’n ddigon pell o'r adeiladau rhag ofn i'w gynnwys danio’n ddamweiniol. Cynlluniwyd yr adeilad fel y byddai unrhyw ffrwydrad mewnol yn chwythu trwy'r to neu'r wal gefn, yn ddigon pell o brif rannau'r safle.
Tŷ'r ffan sy'n sefyll ym mhen pellaf cefn y safle yw un o adeiladau pwysicaf pob pwll. Mae'r system awyru yn cario ocsigen i'r pwll, yn tynnu neu’n gwanhau effaith nwyon drwg, llwch a mwg ac yn creu amgylchedd gweithio oerach a sychach ar gyfer y glowyr.