Y baddondai pen pwll
Mae'r baddondai pen pwll yn cynnwys pedwar gofod arddangos ac yn defnyddio gwrthrychau a delweddau i adrodd stori'r pyllau glo yng Nghymru.
Mae'r themâu yn cynnwys plant yn y pyllau glo, iechyd, bywyd cartref a'r gymuned lofaol. Dewch i weld sut mae bywyd a gwaith glöwr wedi newid o 1850 i 2000.
Dysgwch am ddaeareg a defnydd glo, trychinebau'r pyllau glo ac achub glowyr. Darganfyddwch rôl ac effaith undebaullafur a gwladoli a chael cipolwg agos ar bethau cofiadwy o'r pyllau.
Wrth gerdded trwy'r baddondai heddiw, mae'n anodd dychmygu'r effaith aruthrol gafodd adeiladau fel hyn ar fywydau'r glöwr a'i deulu.
Cyn dyddiau’r baddondai, doedd dim dewis gan y glöwr ond mynd adre’n frwnt ac ymolchi mewn bath tun o flaen y tân neu allan ar y beili.
Roedd gan bob glöwr locer 'glân' a locer 'brwnt' mewn rhannau gwahanol o'r adeilad. Gan adael ei ddillad bob dydd yn ei locer ‘glân’, gwisgai'r glöwr ei ddillad gwaith yn barod am ei shifft dan ddaear.
Wedyn gadawai ei ddillad gwaith yn y locer brwnt i gael eu sychu gan yr awyr twym oedd yn chwythu trwy'r loceri, yn barod am ei shifft nesaf.
Ar gael hefyd mae gofod amlbwrpas sy'n stafell addysg, stafell bwyta brechdanau a darlithfa sy'n gartref i arddangosfeydd dros dro a pharhaol. Mae'r arddangosfa barhaol yn edrych ar y pwnc dadleuol, Ynni Cynaladwy.
Mae canolfan feddygol Big Pit ar bwys y baddondai pen pwll a'r cantîn. Yn sgil gwladoli ym 1947, cafwyd gwelliannau yn y gweithdrefnau iechyd a diogelwch, a chafodd canolfannau meddygol eu codi a chyflogwyd staff i weithio yno.
Trin briwiau, cleisiau, a straeniau bob dydd y glowyr oedd eu gwaith pennaf. Ond roedd adegau pan oedd rhaid iddynt ofalu am lowyr a anafwyd yn ddifrifol dan ddaear. Llais Mrs Phyllis Jones, cyn-nyrs yng Nglofa Cynheidre yw'r llais a glywch chi yn y ganolfan feddygol.