Sgwrs:Sgwrs: Miners’ Modernism: Pithead Baths - Past, Present and Future

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
Wedi'i Orffen

Ymunwch â ni am sgwrs â darluniau gan Brifysgol Queen’s, Belfast a’r Twentieth Century Society, a darganfod arwyddocâd hanesyddol, cymdeithasol a phensaernïol Baddondai Pen Pwll.

Wedi’u disgrifio ym 1939 fel ‘arbrawf cymdeithasol anferthol ar ffurf bensaernïol’, roedd Baddondai Pen Pwll yn rhaglen les flaengar ac arloesol, a hynny dros ddau ddegawd cyn i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol gael ei sefydlu. Er hyn, mae eu hanes bron â bod yn anhysbys, a dydy gwerth treftadaeth posibl enghreifftiau sy’n goroesi heb ei archwilio digon.

Mae nifer cyfyngedig o lefydd ar gael, archebwch docynnau nawr i gadw lle: https://secure.c20society.org.uk/Default.aspx?tabid=62&EventId=1094

Hoffech chi ddysgu mwy a chymryd rhan mewn project ymchwil ar Faddondai Pen Pwll? Ymunwch â’n gweithdy dewisol ar ôl y sgwrs i glywed sut allwch chi gyfrannu at broject dan arweiniad Prifysgol Queen’s, Belfast a’r Twentieth Century Society.

Yn dilyn y sgwrs, mae croeso i chi ymweld â’r Baddondai Pen Pwll ac arddangosfeydd yr Amgueddfa.

Gwybodaeth Bwysig Ychwanegol:  
 

Iaith:

Cynhelir y cwrs drwy iaith cyntaf yr hwylusydd - sef Saesneg. Os hoffech glywed y sgwrs yn y Gymraeg, e-bostiwch:

 bigpit@museumwales.ac.uk i roi gwybod i ni ymlaen llaw.

Hygyrchedd:

Mae'r sgwrs hon yn cael ei chynnal yn Ystafell Kearsley yn y Baddondai Pen Pwll sydd ar frig safle'r Amgueddfa a thua 10 munud o gerdded o'r fynedfa. Gadewch ddigon o amser i gerdded i'r Baddonau cyn dechrau'r sgwrs.   Os oes gennych ofynion hygyrchedd, rhowch wybod i aelod o staff wrth gyrraedd. 

Gwybodaeth

1 Gorffennaf 2024, 2yh-3yh
Pris Am Ddim
Addasrwydd Oedolion
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Ymweld

Parcio

Os ydych yn cyrraedd mewn car bydd angen i chi dalu wrth gyrraedd. £5 y diwrnod. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae ein siop goffi bellach yn gweini dewis cyfyngedig o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa. 

Mynediad

Gwybodaeth cyffredinol a gwybodaeth i ymwelwyr sy'n anabl

Canllaw Mynediad

Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau