Brenin Glo: Y Profiad Cloddio
Mwynhewch brofiad clyweledol cyffrous ag arddangosfeydd o offer pyllau glo modern yn Orielau Glofaol Big Pit.
Yn y llethr uwchben y pwll mae'r orielau yn gartref i arddangosfeydd sy'n efelychu lefelydd dan ddaear, a chyflwyniad amlgyfrwng sy’n adrodd stori datblygiad diwydiant glo Cymru.
O waith y coliar crefftus i’r diwydiant soffistigedig, mecaneiddedig heddiw, mae'r stori'n dechrau â ffilm fer sy'n cael ei dilyn gan dair ardal arddangos. Dewch i weld sut roedd glowyr yn cyrraedd y glo drwy ddefnyddio ffrwydron neu beiriannau mawr sy'n torri creigiau.
Edrychwch ar ailgread o dalcen glo llwytho'n beiriannol o'r 1970au gyda'i gludwyr arfog, cynheiliaid to hydrolig a thorrwr/llwythwr sy'n torri glo â cheibiau blaenau twngsten a gysylltir â drwm sy'n troi.
Mae talcen glo o fath cynharach hefyd i'w weld (1950au/1960au) gyda pheiriant tandorri - llif gadwyn anferth. Ar ôl i'r glo gael ei dorri cawsai ei roi ar gludfelt â llaw tra bo'r to'n cael ei gynnal gan byst pwll traddodiadol o bren.